Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofalwyr maeth yn annog teuluoedd eraill i gymryd rhan a newid bywydau

Mae cwpl o Abertawe sy'n helpu i newid dyfodol plant drwy faethu yn annog teuluoedd eraill sy'n gweithio i wneud yr un peth.

Dywed Lucy a Johnny Martin, sydd â thri o blant eu hunain ac sy'n cynnal bywydau gwaith prysur yng Nghyngor Abertawe, fod nifer cynyddol o gyflogwyr yn helpu drwy'r fenter 'Cyflogwr sy'n Ystyriol o Faethu'.

Dyfarnwyd statws Ystyriol o Faethu i Gyngor Abertawe'n gynharach eleni gan y Rhwydwaith Maethu, gan ddilyn yn ôl troed y cwmni yswiriant o Gymru, Admiral.

Dywedodd Lucy fod bywyd teuluol a gwaith wedi'i wneud yn llawer haws drwy gael cyflogwyr sy'n ystyriol o faethu fel Cyngor Abertawe ac Admiral.

Mae hyn oherwydd bod rhieni teulu maeth yn cael amser bant ychwanegol i fynd i gyfarfodydd, hyfforddiant ac i helpu plentyn i ymgartrefu yn eu cartref.

Maent wedi cael profiad gwell o weithio'n hyblyg ac yn dweud bod y gefnogaeth ychwanegol yn amhrisiadwy.

Meddai Lucy, "Roedd bywyd fel teulu eisoes yn eithaf prysur cyn i ni benderfynu maethu, gan fy mod i a fy ngŵr yn gweithio'n llawn amser ac mae gennym dri o blant ein hunain.

"I ddechrau, roeddem yn teimlo fel ein bod yn gwneud gormod gyda'r maethu a'n hymrwymiadau gwaith, ond yn ffodus mae ein cyflogwyr yn ystyriol o faethu ac maent wedi bod yn arbennig o gefnogol drwy gydol ein taith faethu.

"Rydym yn gallu rheoli pethau'n wych nawr, ac er bod bywyd hyd yn oed yn brysurach ers croesawu plentyn arall i'n cartref, rydym hefyd yn cael mwy o hwyl, yn chwerthin yn amlach ac yn mynd ar lawer o anturiaethau newydd!"

Ychwanegodd, "Rydym yn annog rhagor o fusnesau lleol i feddu ar statws ystyriol o faethu, yn union fel y gwnaeth Admiral yn ddiweddar."

Os ydych yn fusnes lleol ac mae gennych ddiddordeb mewn dilyn esiampl Admiral a Chyngor Abertawe drwy ddod yn gyflogwr sy'n ystyriol o faethu, gall y Rhwydwaith Maethu roi rhagor o wybodaeth i chi a'ch helpu i gyflawni hyn.

Am ragor o wybodaeth am ddod yn gyflogwr sy'n ystyriol o faethu,  cysylltwch â'r Rhwydwaith Maethu fosteringfriendly@fostering.net.

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth yn Abertawe, ewch i, https://abertawe.maethucymru.llyw.cymru/ neu ffoniwch 0300 555 0111.

Close Dewis iaith