Toglo gwelededd dewislen symudol

Straeon gofalwyr maeth Abertawe yn dangos y gall pawb gynnig rhywbeth a chefnogi plant mewn gofal yng Nghymru

Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

foster couple sharon and theo

Heddiw, aeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, ati gyda'r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026, i ddarparu cartrefi diogel i bobl ifanc lleol.

Mae Maethu Cymru Abertawe wedi ymuno â'r ymgyrch newydd, 'gall pawb gynnig rhywbeth,' gan ddefnyddio eu hased mwyaf - gofalwyr maeth presennol - i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio'r nodweddion dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu'r ymgyrch - gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau'r cyhoedd, a'r rhai sy'n gadael gofal.

Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag ymholi:

• Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.

• Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.

• Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.

Gyda'r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu awdurdodau lleol yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod â chyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol helaeth.