Cynnydd o 20% yn y defnydd o fysus ar benwythnos cyntaf y cynnig am ddim
Bydd gan bawb gyfle i ddefnyddio bysus yn Abertawe am ddim o heddiw (dydd Gwener) ar gyfer ail benwythnos hir y cynnig arloesol.
Dywedodd gweithredwyr bysus yn y ddinas fod nifer y teithwyr wedi cynyddu mwy na 20% ar benwythnos cyntaf y cynnig, sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Mae gan filoedd o deithwyr gyfle i ymuno ym menter #BysusAmDdimAbertawe rhwng dydd Gwener a dydd Llun drwy gydol gwyliau haf mis Awst i hybu twristiaeth a masnachwyr wrth i'r ddinas ddod allan o'r pandemig.
Mae adborth cychwynnol gan First Cymru'n awgrymu bod nifer y teithwyr wedi cynyddu mwy na phumed rhwng dydd Llun a dydd Gwener o'i gymharu â'r wythnos cyn hynny. Cafwyd cynnydd o 65% yn nifer y teithwyr ar rai o wasanaethau New Adventure Travel o'i gymharu â'r un cyfnod yr wythnos gynt.
Dywedodd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, y cafwyd adborth cadarnhaol iawn ar y cynnig cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Meddai, "Mae busnesau yn ogystal â theithwyr wedi bod yn gefnogol iawn o'r hyn rydym yn ceisio'i wneud. Mae'n gyfle i deuluoedd nad ydynt wedi ymweld â'u hoff draeth am gyfnod hir deithio i Fae Abertawe, er enghraifft, taith i Lido Blackpill neu dro ar hyd y prom.
"Mae'n galonogol gweld bod pobl yn defnyddio gwasanaethau bysus y ddinas unwaith eto wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Hoffwn ddiolch i'r holl weithredwyr bysus am eu hymdrech wrth helpu i reoli'r cynnig.
"Byddwn yn parhau i fonitro sut mae pethau'n mynd dros y penwythnosau nesaf fel y gall pobl fwynhau amser hamdden a theithio am ddim yn lleol."
Dywedodd Adam Keen, rheolwr gyfarwyddwr NAT, fod penwythnos cyntaf #BysusAmDdimAbertawe wedi bod yn llwyddiant.
"Mae ein hadborth cychwynnol yn awgrymu bod niferoedd y teithwyr ar rai o'n gwasanaethau wedi cynyddu 65% o'u cymharu â'r wythnos cyn hynny.
"Rydym yn hynod falch fod Cyngor Abertawe wedi rhoi'r cynnig hwn ar waith, a fydd yn annog pobl i ddefnyddio'r bysus ac yn helpu i roi'r sector cludiant cyhoeddus ar y trywydd iawn ar ôl 18 mis anodd iawn.
"Hyrwyddo gwasanaethau bysus mewn ffordd ragweithiol a chadarnhaol yw'r union beth sydd ei angen ac rwy'n gobeithio gweld llawer mwy o gynigion tebyg ar draws Cymru."
Meddai llefarydd dros First Cymru, "Hoffem ddiolch i deithwyr bysus am eu cefnogaeth i sicrhau bod y fenter #BysusAmDdimAbertawe yn llwyddiant hyd yn hyn. Roedd penwythnos cyntaf y fenter yn brysur iawn. Mae'n galonogol gweld mwy o bobl ar y bysus unwaith eto.
"Ein neges i ddefnyddwyr yw mwynhau eu teithiau ond bod angen cynllunio'r daith ymlaen llaw, gan gynnwys y daith gartref, gan fod y gwasanaethau'n boblogaidd iawn."
I gael rhagor o wybodaeth am #BysusAmDdimAbertawe ewch i'r wefan: www.abertawe.gov.uk/bysusamddim