Toglo gwelededd dewislen symudol

Bysus am ddim yn dychwelyd i Abertawe ar gyfer y Pasg

Bydd cynnig bysus am ddim Abertawe'n dychwelyd ar gyfer gwyliau'r Pasg, gan ddechrau ddydd Sadwrn yma, 23 Mawrth.

Buses at Swansea Bus Station

Gall siopwyr lleol a'r rhai sy'n teithio i ganol dinas Abertawe am y dydd neu'r rhai sy'n teithio o le i le deithio ar fysus am ddim bob dydd Sadwrn a dydd Sul dros wyliau ysgol y Pasg.

Mae'r Pasg yn draddodiadol yn nodi dechrau'r tymor twristiaeth 6 mis yn y ddinas ac mae llawer o ddigwyddiadau ar gynnig, yn ogystal â throeon bendigedig y gwanwyn o gwmpas ein parciau ac ar hyd llwybrau arfordirol i'w mwynhau hefyd.

Bydd y cynnig bysus am ddim yn helpu i'w gwneud hi'n haws ac yn rhatach i deuluoedd sydd dan bwysau yn ystod yr argyfwng costau byw fwynhau'r holl bethau hyn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynnig bysus am ddim dros y Pasg yma: www.abertawe.gov.uk/bysusamddim

Mae dyddiadau'r cynnig bysus am ddim dros y Pasg fel a ganlyn:

Dydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Mawrth 2024

Dydd Llun 25 Mawrth 2024

Dydd Gwener y Groglith 29 Mawrth 2024

Dydd Sadwrn 30 a dydd Sul y Pasg 31 Mawrth 2024

Dydd Llun y Pasg 1 Ebrill 2024

Dydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Ebrill 2024

 

 

 

 

Close Dewis iaith