Toglo gwelededd dewislen symudol

Bron i hanner miliwn o deithiau ar fysus am ddim yn ystod yr haf

Mae menter bysus am ddim arloesol Abertawe wedi bod yn boblogaidd dros ben ymhlith preswylwyr, yn ôl ffigurau newydd.

Buses at Swansea Bus Station

Bydd cynnig bysus am ddim y ddinas yn dychwelyd ar gyfer gwyliau'r haf fis nesaf, ond mae ffigurau swyddogol newydd yn dangos sut mae'r fenter wedi annog cannoedd ar filoedd o deithiau ar fysus yn lleol.

Mae ffigurau'r cyngor yn dangos bod bron i 214,000 o bobl wedi manteisio ar y cynnig rhwng Gorffennaf ac Awst yn ystod ei lansiad yn ystod haf 2021. Cynyddodd y ffigur hwnnw i fwy na 222,000 ar gyfer yr un cyfnod yr haf canlynol.

A nawr bod y fenter wedi'i chadarnhau ar gyfer penwythnosau yn ystod gwyliau haf yr ysgol eleni hefyd, gallai nifer y defnyddwyr fod yn uwch fyth.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, fod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod y cynnig bysus am ddim wedi bod yn llwyddiant ysgubol, a'i fod yn rhywbeth sydd wedi'i groesawu gan filoedd o deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd yn ystod yr argyfwng costau byw.

"Gwnaethom gyflwyno'r fenter hon i gefnogi teuluoedd a busnesau wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Ond mae wedi dod yn arbennig o boblogaidd yn ystod yr argyfwng costau byw wrth helpu cynifer o bobl i gael deupen llinyn ynghyd.

"Mae ymateb y cyhoedd i'r cynnig bysus am ddim wedi bod yn wych." Rydym wedi clywed gan lawer o deuluoedd sydd wedi elwa ac mae'r adborth yn dangos ei fod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

"Mae'r ffaith fod pobl wedi manteisio ar bron i hanner miliwn o deithiau mewn dau gyfnod o wyliau'r haf yn unig yn dangos pa mor boblogaidd a defnyddiol y mae wedi bod i gynifer o bobl.

"Mae hefyd wedi helpu i roi hwb i fusnesau yng nghanol y ddinas ac yn ein cyrchfannau arfordirol."

Bydd cynnig bysus am ddim yr haf hwn yn rhedeg tan 7pm ar benwythnosau hir o ddydd Gwener 28 Gorffennaf tan ddydd Llun Gŵyl y Banc ar 28 Awst. Bydd y telerau arferol yn berthnasol sy'n golygu bod yn rhaid i deithiau ddechrau a gorffen o fewn ardal Cyngor Abertawe.

 


 

 

Close Dewis iaith