Toglo gwelededd dewislen symudol

Bysus am ddim i helpu teuluoedd i dorri costau'r Nadolig

Bydd bysus am ddim yn dychwelyd i Abertawe o'r penwythnos hwn i helpu teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw y Nadolig hwn.

Buses at Swansea Bus Station

Mae'r cynnig yn dechrau ddydd Sadwrn a bydd yn parhau ar bob penwythnos siopa tan y Nadolig ac yn ystod wythnos gyfan y Nadolig.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r cynnig bysus am ddim yn gwneud gwahaniaeth enfawr i filoedd lawer o bobl ar draws y ddinas bob tro y caiff ei gynnig, gan eu helpu i dorri eu costau pan fo arian yn dynn."

Nid yw bysus yn Abertawe yn cael eu gweithredu gan y cyngor ac nid yw'r pryderon diweddar a godwyd gan bobl leol am wasanaethau yn y ddinas yn ymwneud â'r cyngor.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Cwmnïau bysus sy'n uniongyrchol gyfrifol am yr amserlenni y maent yn eu gweithredu a rhoddwyd y newidiadau diweddar ar waith yn sgil gostyngiad yn y grant i weithredwyr gan Lywodraeth Cymru.

"Yn Abertawe, gwyddwn pa mor bwysig yw gwasanaethau bysus. Bwriedir i'n cyllid i weithredwyr bysus lleol am fentrau teithio am ddim yn ystod y gwyliau ysgol yw darparu cymorth i weithredwyr yn ogystal â gwella'u busnes yn y tymor hir drwy annog pobl i'w defnyddio'n fwy."

Gallwch gael gwybod mwy yma: https://ww.abertawe.gov.uk/bysusamddim

Close Dewis iaith