Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig bysus am ddim dros dymor yr ŵyl yn Abertawe i helpu teuluoedd a busnsesau

Bydd ymwelwyr sy'n mynd i orymdaith y Nadolig eleni ar 21 Tachwedd yn gallu cyrraedd yno ar y bws am ddim wrth i #BysusAmDdimAbertawe ddychwelyd ar gyfer tymor yr ŵyl.

Buses at Swansea Bus Station

Gan ddechrau ddydd Sadwrn 20 Tachwedd, mae'r fenter cludiant cyhoeddus hynod boblogaidd a ddechreuwyd yn y ddinas yn ôl bob penwythnos (dydd Sadwrn a dydd Sul) yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig ac ar gyfer wythnos gyfan 18 - 24 Rhagfyr a 27 - 31 Rhagfyr.

Cynyddodd niferoedd y teithwyr eto dros y gwyliau hanner tymor yn dilyn gwyliau ysgol yr haf pan gynyddodd niferoedd teithwyr fwy na 50%.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Rydyn ni'n gwneud pethau mor hawdd â phosib i bobl fynd ar fws yn ystod cyfnod yr ŵyl i roi hwb i fusnesau ar yr adeg hanfodol hon o'r flwyddyn.

"Ar ôl yr 20 mis diwethaf o COVID-19, mae angen cefnogaeth pawb ar fanwerthwyr a busnesau lletygarwch, ac mae menter #BysusAmDdimAbertawe yn ei gwneud hi'n haws i bobl fynd o gwmpas y lle, boed hynny'n drip i siopa yng nghanol y ddinas neu'n daith i gwrdd â ffrindiau am goffi yn y Mwmbwls neu rywle arall."

"Lansiwyd menter Bysus Am Ddim Abertawe gennym i helpu teuluoedd a busnesau a oedd yn ei chael hi'n anodd oherwydd y pandemig, ac maent wedi dweud wrthyf ers hynny faint o wahaniaeth mae e' wedi gwneud iddynt.Maen nhw wedi gallu mwynhau amser mas heb orfod poeni am gostau teithio.

"Mae hefyd wedi rhoi hwb i'r economi leol gyda phobl yn teithio i ganol y ddinas, ein hatyniadau a'n canolfannau siopau ar draws Abertawe.

"Dyna pam roedd yn bwysig ehangu'r cynnig am ddim yn ystod gwyliau hanner tymor a'r Nadolig.

Croesawyd nifer y teithwyr sy'n defnyddio'r cludiant cyhoeddus gan y Cyng. Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd.

Meddai, "Rydym yn ymrwymedig i wneud popeth y gallwn yn Abertawe i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

"Mae ein cynnig bysus am ddim wedi sbarduno pobl i newid o'u ceir i fysus sy'n helpu i leihau tagfeydd a llygredd traffig.

"Drwy ehangu'r cynnig, gobeithiwn y bydd rhagor o bobl yn newid i gludiant cyhoeddus a gobeithio'n parhau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn y tymor hwy."

Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID (Rhanbarth Gwella Busnes) Abertawe, "Profwyd bod y gwasanaeth bysus am ddim yn fenter ragorol y mae llawer wedi manteisio arni - ac mae'n rhoi cefnogaeth hael i'n busnesau yn yr ardal BID yn y cyfnod pwysig cyn y Nadolig.

 "Byddem yn annog pobl i wneud eu siopa Nadolig a mwynhau'r lletygarwch gwych y mae canol ein dinas yn ei gynnig."

Cynhelir y cynnig bysus am ddim o 20 Tachwedd tan 31 Rhagfyr, a rhaid i bob taith fws ddechrau cyn 7pm. Cynhelir y gwasanaeth bysus am ddim tan 10.30pm ar 21 Tachwedd i gyd-fynd â Gorymdaith y Nadolig.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022