Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle olaf i fwynhau mynd ar fws am ddim yr Ŵyl Banc hon

Bydd miloedd o breswylwyr yn cael y cyfle olaf i fwynhau gwasanaethau bysus am ddim ar draws Abertawe y penwythnos hwn er mwyn gwneud yn fawr o dywydd braf Gŵyl y Banc.

Swansea Bay Rider Land Train

Dyma benwythnos olaf cynnig yr haf sydd wedi caniatáu penwythnosau hir o deithiau bws am ddim yn Abertawe i unrhyw un sy'n dal bws neu'n disgyn oddi arno yn Abertawe.

Ac mae'n cyd-fynd â phenwythnos gwych o brofiadau rhad neu am ddim a chyfleoedd i ymwelwyr mewn lleoliadau sy'n eiddo i'r cyngor.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Mae'r cynnig bysus am ddim yn Abertawe wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae degau ar filoedd o bobl wedi defnyddio'r gwasanaeth dros y penwythnosau hir yr haf hwn.

"O'r adborth rydym wedi'i gael, mae'n amlwg ei fod yn helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd mynd i leoedd y byddent yn cael trafferth talu i ymweld â nhw yn ystod yr argyfwng costau byw sydd ohoni.

"Rwyf hefyd am ddiolch i'r gweithredwyr bysus am eu cefnogaeth barhaus."

Ychwanegodd Elliot King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb, fod cryn dipyn i'w wneud dros benwythnos Gŵyl y Banc, a llawer ohono'n gyraeddadwy gan ddefnyddio gwasanaeth bysus am ddim Abertawe.

Meddai, "Mae atyniadau ar draws Abertawe bob amser yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod penwythnos Gŵyl y Banc yn un i'w gofio ac nid yw'n wahanol y tro yma.

"Os hoffech fynd ar daith i Gastell Ystumllwynarth, y Mwmbwls neu draeth Abertawe, gallwch gyrraedd yno am ddim os ydych yn ymuno â'n bysus yn Abertawe ac yn sicrhau eich bod yn dal bws adref cyn 7pm."

Mae Castell Ystumllwynarth yn cynnig diwrnod Tywysogion a Thywysogesau arbennig ddydd Llun Gŵyl y Banc o 11am i 4pm lle anogir plant bach i wisgo lan am y diwrnod neu gwrdd a chyfarch tywysogion a thywysogesau o straeon tylwyth teg poblogaidd.

I gael gwybod mwy am leoliadau Cyngor Abertawe sydd ar agor ar benwythnos Gŵyl y Banc a'r pethau eraill sydd i'w gwneud ar draws yr ardal, ewch i:

https://www.croesobaeabertawe.com/events/

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Awst 2022