Gwasanaethau hanfodol yn cael hwb gwerth £9m
Gallai gwasanaethau hanfodol a phrosiectau cymunedol ar draws Abertawe gael mwy na £9 miliwn mewn cyllid ychwanegol.
Mae Cabinet Cyngor Abertawe'n bwriadu buddsoddi £9.7 miliwn gan gynnwys £6 miliwn ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol sydd dan bwysau cynyddol yn sgil mwyfwy o alw a chostau cynyddol.
Gallai saith prosiect pellach hefyd dderbyn cyllid untro i roi hwb i ffyrdd, teithio a chyfleusterau hamdden.
Dyma'r pecyn cyllid arfaethedig:
· £6 miliwn ar gyfer pwysau gofal
· £1m yn ychwanegol ar gyfer y gronfa buddsoddi cymunedol i gefnogi mwy o brosiectau.
· £1m i wella arwynebedd ffyrdd
· £1m yn ychwanegol ar gyfer cyfleusterau parc sglefrio
· £200,000 i gefnogi teithio ar fysus am ddim yn ystod gwyliau haf yr ysgol.
· £200,000 ar gyfer llwybrau hygyrch mewn parciau.
· £150,000 ar gyfer y cynlluniau cymorth bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol.
· £60,000 ar gyfer cyfarpar newydd i gynnal a chadw llwybrau teithio llesol
Dangosodd adroddiad i Gabinet y Cyngor fod tanwariant yng nghronfa wrth gefn y llynedd ac yng nghronfa adferiad economaidd y Cyngor ochr yn ochr â thanwario mewn nifer o adrannau wedi caniatáu ar gyfer cyllid untro i'w roi i brosiectau eraill eleni.
Ac eithrio'r £9.7m a glustnodwyd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol a blaenoriaethau eraill, roedd £600,000 eisoes wedi'i ddyrannu i'r adran Priffyrdd, £400,000 arall i ysgolion a £2m pellach wedi'i ychwanegu at gronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor.