Gerddi a pharciau hanesyddol
Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chynnal cofrestr o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru sy'n cynnwys parciau, gerddi, tirweddau addurnol dyluniedig, mannau adloniant ac tiroedd dyluniedig eraill.
Gellir gweld lleoliadau a ffiniau holl Barciau a Gerddi Hanesyddol Cymru yn MapDataCymru.
Disgwylir i awdurdodau cynllunio lleol ystyried y gofrestr wrth baratoi cynlluniau datblygu lleol. Gall effaith datblygiad arfaethedig ar safle cofrestredig neu ei leoliad hefyd fod yn 'ystyriaeth berthnasol' wrth benderfynu ar gais cynllunio.
Mae rhagor o wybodaeth i'w chael ar wefan Cadw yn cadw.llyw.cymru.