Toglo gwelededd dewislen symudol

Diwrnodau creadigol anhygoel o'n blaenau yr haf hwn

Mae darpar artistiaid o bob oed yn cael y cyfle i ddod ynghyd a dysgu sgiliau newydd mewn rhaglen haf lawn yn Oriel Gelf Glynn Vivian.

Glynn viv children having fun

Mae oriel gelf y ddinas yn agor ei drysau ar gyfer Suliau'r Haf a fydd yn cynnwys gweithdai creadigol a chwarae a ffilmiau i'r teulu yn y prynhawn gyda mwy fyth i'w wneud yn ystod yr wythnos hefyd.

Ar ddydd Mercher cynhelir gweithdai a fydd yn cynnig sgiliau newydd mewn paentio, cerflunwaith a brodwaith, ac ar ddydd Iau bydd pobl ifanc yn cael y cyfle i fynd ar deithiau hudol o'r dychymyg, gan greu coedwigoedd a mynyddoedd i'w harchwilio.

Bydd Suliau'r Haf yn cynnwys Ysgol Goedwig newydd, o 10.30am i 12pm, a fydd yn cynnig y cyfle i ddysgu, chwarae ac archwilio'r byd naturiol.

Mae'r Clwb Ffilmiau i Deuluoedd yn dychwelyd ar ddydd Sul o 1pm gyda ffilm wahanol yn cael ei dangos bob wythnos. Ffoniwch yr oriel ar 01792 516900 i gael gwybod am yr hyn sy'n digwydd.

Gall pobl frwdfrydig gadw lle nawr ar gyfer y gweithdai poblogaidd 'Rwy'n gallu...' a gynhelir bob dydd Mercher o 10.30am i 12pm - cyfres o sesiynau cyflwyniadol difyr i wneud printiau sylfaenol, paentio, cerflunwaith a brodwaith.

A phob wythnos ar ddydd Iau, bydd y Glynn Viv yn cynnal gweithdai Coedwig Hudol a Mynyddoedd Cyfriniol, cyfle i gydweithio i greu gosodiad hudol, rhyfeddol ac enfawr ar thema'r goedwig. Cynhelir sesiynau o 10.30am i 12pm ac o 1.30pm i 3pm.

Ewch ar-lein i www.glynnvivian.co.uk i weld y rhaglen lawn a chynllunio'ch ymweliad am ddim. Mae'r Oriel yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn - ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan. Mae'r holl weithgareddau am ddim ac fe'ch cynghorir i gadw lle.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Awst 2022