Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gofal dydd llawn (meithrinfa ddydd)

Mae Meithrinfeydd Dydd yn darparu gofal amser llawn a rhan-amser i blant rhwng 3 mis a 5 oed. Maent yn gweithredu drwy'r flwyddyn, ac fel arfer ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am tan 6pm (ac mae rhai'n cynnwys dydd Sadwrn hefyd).

Mae rhai meithrinfeydd hefyd yn cynnig gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol ac yn ystod y gwyliau.

Mae'n rhaid i leoliadau'r meithrinfeydd fod yn briodol i'w defnyddio gan blant ifanc a dylent gael amgylchedd cartrefol ag ardal chwarae awyr agored, ardal dawel/cysgu, cegin a chyfleusterau newid/toiled.  Dylid hefyd ystyried cael digon o leoedd parcio er mwyn i rieni allu gadael a chasglu eu plant yn ddiogel.

Rheoli'r feithrinfa ddydd

Mae'n rhaid i reolwr y feithrinfa a'r staff:

  • Gael o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd a chymhwyster gofal plant lefel 3 cydnabyddedig gan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NNEB, CACHE Diploma Gofal Plant, NVQ Lefel 3 neu gyfwerth).
  • Mae'n rhaid cael dirprwy dynodedig yn y feithrinfa sy'n gallu rheoli pan fydd y rheolwr yn absennol.

 

Newidiadau i ddod i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Hysbysiad ymlaen llaw ynghylch newidiadau i ofynion staff o ran cymwysterau o fis Medi 2021.Mae'r newidiadau'n ymwneud â Safonau Gofal Dydd 13.6 (GD) a 13.7 (GD), o ran y cymwysterau gofynnol ar gyfer Personau â Gofal a staff nad ydynt yn goruchwylio mewn gwasanaethau gofal plant a chwarae a reoleiddir ar gyfer plant rhwng 0 a 12 mlwydd oed.

Mae'r diwygiad dros dro i Safon 13.6 (GD) ynghylch cymwysterau gofynnol Personau â Gofal ar gyfer cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau hefyd wedi'i ffurfioli. Nid oes unrhyw newidiadau i'r gofynion ar hyn o bryd ar gyfer gwarchodwr plant, na gwasanaethau gofal plant cofrestredig sy'n gofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

Cytunwyd ar y gofynion ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru a SkillsActive, y cynghorau sgiliau sector sy'n gyfrifol am y sectorau gofal plant a chwarae yng Nghymru. Mae'r cyfnod arwain a bennwyd i weithluoedd gofal plant a chwarae ar gyfer cyrraedd y cymwysterau chwarae gofynnol yn dod i ben ym Mis Medi 2021.

Mae rhagor o fanylion ar gael restr Gofal Cymdeithasol Cymru o'r cymwysterau gofynnol i weithio mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a rhestr SkillsActive o'r cymwysterau gofynnol i weithio yn y sector gwaith chwarae yng Nghymru.Gall darparwyr weld y cylchlythyr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni.

Y staff:

  • Dylai o leiaf 80% o'r staff nad ydynt yn goruchwylio feddu ar gymhwyster gofal plant lefel 2 gan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a dylai o leiaf hanner ohonynt fod a chymhwyster lefel 3.  Os na ellir cyflawni hyn ar unwaith, bydd y person cofrestredig yn amlinellu cynllun gweithredu sy'n manylu ar sut maent yn bwriadu bodloni'r meini prawf a chytuno ar amserlen i'w gyflawni.  Bydd AGC yn ystyried y cynllun ac yn cynnig ei gymeradwyaeth neu'n nodi agweddau y mae angen eu gwella.
  • Mae'n rhaid i'r holl staff dderbyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).

 

I gael mwy o fanylion, ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD).

Close Dewis iaith