Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofal sesiynol (cylch chwarae a / neu ofal dechrau a diwedd dydd)

Mae cylchoedd chwarae fel arfer yn gweithredu o ganolfannau cymunedol, ysgolion neu adeiladau eglwysi ac yn cynnig gofal sesiynol i blant rhwng 2 a 5 oed.

Gweithredir cylchoedd chwarae am 2 i 3 awr yn y bore a/neu'r prynhawn yn ystod y tymor yn bennaf.

Mae Gofal Dechrau a Diwedd Dydd ar gael mewn ysgolion, ac mae'n cynnig gofal sesiynol i blant rhwng 3 a 4 oed. Mae clybiau dechrau a diwedd dydd yn caniatau i blant meithrin yr ysgol aros ar safle'r ysgol drwy'r dydd. Er enghraifft, gall plant meithrin y bore ddefnyddio'r clwb dechrau a diwedd dydd ar ol eu sesiwn ysgol i aros yn yr ysgol tan 3.20pm. Bydd plant sy'n mynd i'r ysgol feithrin yn y prynhawn yn defnyddio gofal dechrau a diwedd dydd yn y bore.

Sylwer na chaniateir i blant fynychu mwy na phum sesiwn yr wythnos lle cynigir dwy sesiwn yr wythnos lle cynigir dwy sesiwn unrhyw ddydd, a bod rhaid cael egwyl rhwng sesiynau, heb blant dan ofal y darparwr.

Rheoli'r cylch chwarae / gofal dechrau a diwedd dydd

Mae'n rhaid i'r rheolwr:

  • Gael o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd a chymhwyster gofal plant lefel 3 cydnabyddedig gan Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Cyngor Gofal Cymru (NNEB, CACHE Diploma Gofal Plant, NVQ/FfCCHh Lefel 3 neu gyfwerth).

Y staff:

  • Dylai o leiaf 50% o'r staff fod a chymhwyster gofal plant lefel 2 cynabyddedig gan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.  Os na ellir cyflawni hyn ar unwaith, bydd y person cofrestredig yn amlinellu cynllun gweithredu yn manylu ar sut maent yn bwriadu bodloni'r meini prawf a chytuno ar amserlen i'w gyflawni. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd) n ystyried y cynllun ac yn cynnig ei gymeradwyaeth neu'n nodi agweddau y mae angen eu gwella. 
  • Mae'n rhaid i'r holl staff dderbyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).

Mae'r rhan fwyaf o grwpiau yn aelodau o Gymdeithas Darparwyr Cynysgol Cymru (PPA Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)  I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Swyddog Datblygu PPA Cymru (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith