Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofal sesiynol (Cylch Meithrin - cylchoedd chwarae Cymraeg)

Byddwch yn gweithio mewn lleoliad lle cynigor profiadau chwarae a dysgu i blant trwy gyfrwng y Gymraeg, wrth ddarparu cymorth a chefnogaeth werthfawr i deuluoedd o gefndiroedd di-Gymraeg sy'n dymuno dysgu Cymraeg.

Fel arfer, cynhelir Cylchoedd Meithrin mewn canolfannau cymunedol, ysgolion neu eglwysi, gan gynnig gofal sesiynol i blant rhwng 2 a 5 oed.  Cynhelir cylchoedd chwarae am 2 i 4 awr yn y bore a/neu'r prynhawn yn ystod y tymor yn bennaf.

Sylwer na chaniateir i blant fynychu mwy na phum sesiwn yr wythnos lle cynigir dwy sesiwn unrhyw ddydd, a bod rhaid cael egwyl rhwng sesiynau, heb blant dan ofal y darparwr.

Cynhelir Cylch Meithrin gan grwp rheoli gwirfoddol y caiff pob rhaint wahoddiad i fod yn rhan ohono.

Rheoli'r Cylch Meithrin

Mae'n rhaid i'r arweinydd:

  • Gael o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd a chymhwyster gofal plant lefel 3 cydnabyddedig gan Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Cyngor Gofal Cymru (NNEB, CACHE Diploma Gofal Plant, NVQ/FfCCh Lefel 3 neu gyfwerth).

Newidiadau i ddod i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Hysbysiad ymlaen llaw ynghylch newidiadau i ofynion staff o ran cymwysterau o fis Medi 2021.Mae'r newidiadau'n ymwneud â Safonau Gofal Dydd 13.6 (GD) a 13.7 (GD), o ran y cymwysterau gofynnol ar gyfer Personau â Gofal a staff nad ydynt yn goruchwylio mewn gwasanaethau gofal plant a chwarae a reoleiddir ar gyfer plant rhwng 0 a 12 mlwydd oed.

Mae'r diwygiad dros dro i Safon 13.6 (GD) ynghylch cymwysterau gofynnol Personau â Gofal ar gyfer cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau hefyd wedi'i ffurfioli. Nid oes unrhyw newidiadau i'r gofynion ar hyn o bryd ar gyfer gwarchodwr plant, na gwasanaethau gofal plant cofrestredig sy'n gofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

Cytunwyd ar y gofynion ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru a SkillsActive, y cynghorau sgiliau sector sy'n gyfrifol am y sectorau gofal plant a chwarae yng Nghymru. Mae'r cyfnod arwain a bennwyd i weithluoedd gofal plant a chwarae ar gyfer cyrraedd y cymwysterau chwarae gofynnol yn dod i ben ym Mis Medi 2021.

Mae rhagor o fanylion ar gael restr Gofal Cymdeithasol Cymru o'r cymwysterau gofynnol i weithio mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a rhestr SkillsActive o'r cymwysterau gofynnol i weithio yn y sector gwaith chwarae yng Nghymru.Gall darparwyr weld y cylchlythyr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni.

Y staff:

  • Mae'n rhaid i'r holl staff allu siarad Cymraeg.
  • Dylai o leiaf 50% o'r staff fod a chymhwyster gofal plant lefel 2 cydnabyddedig gan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.  Os na ellir cyflawni hyn ar unwaith, bydd y person cofrestredig yn amlinellu cynllun gweithredu yn manylu ar sut maent yn bwriadu bodloni'r meini prawf a chytuno ar amserlen i'w gyflawni. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd) yn ystyried y cynllun ac yn cynnig ei gymeradwyaeth neu'n nodi agweddau y mae angen eu gwella.
  • Mae'n rhaid i'r holl staff dderbyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).

Mae'r holl grwpiau'n aelodau o'r  Mudiad Meithrin (Yn agor ffenestr newydd) sy'n gallu cynnig cymorth, cefnogaeth ac arweiniad yn ogystal a'r cyfle i staff anghymwys ddilyn Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol MM Cam wrth Gam (Yn agor ffenestr newydd) er mwyn ennill cymhwyster Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 FfCCh.  I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Swyddog Datblygu MM (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith