Cymorth cymunedol yn parhau yn ystod y don COVID ddiweddaraf
Gofynnir i gymdogion yn Abertawe ofalu am ei gilydd i sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi wrth i nifer yr achosion Coronafeirws barhau i fod yn uchel yn y ddinas.
Mae'r cyfraddau'n golygu y bydd rhai pobl yn hunanynysu ar ôl profi'n bositif, ac efallai bod eraill, sy'n ddiamddiffyn, yn cymdeithasu llai.
Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol Cyngor Abertawe'n helpu i gydlynu'r cymorth cymydog i gymydog a oedd mor effeithiol i nifer yn ystod y prif gyfnodau clo.
Gall unrhyw un sy'n gallu cadw llygad ar gymydog neu sydd eisoes yn rhan o rwydwaith cefnogi lleol gysylltu â'i Gydlynydd Ardal Leol yn: https://www.abertawe.gov.uk/cydlynuardalleol
Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA) wedi parhau i gefnogi pobl ddiamddiffyn, gyda'r tîm a gwirfoddolwyr yn cefnogi gyda mynediad at fwyd, presgripsiynau, trefniadau gadael yr ysbyty, trafnidiaeth i ganolfannau brechu a dod o hyd i gefnogaeth gan y sector gwirfoddol a chymunedol ehangach.
Meddai'r Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Er bod nifer yr achosion yn uchel iawn, ar gyfer llawer ohonom nid yw Omicron wedi tarfu ar ein bywydau i'r un graddau â thonnau cynharaf y feirws.
"Ond mae pobl a fydd yn aros gartref o hyd, efallai oherwydd bod angen iddynt hunanynysu neu am eu bod yn pryderu am y nifer uchel iawn o achosion.
"Ers dechrau'r pandemig mae'r cyngor wedi ehangu ein tîm o Gydlynwyr Ardaloedd Lleol i gynnwys Abertawe gyfan, ac maent yn parhau i weithio yn eu cymunedau.
"Mae CGGA a'i wirfoddolwyr wedi bod yn amhrisiadwy o ran helpu'r rheini y mae angen help arnynt.
"Ond gall pob un ohonom chwarae rhan, naill ai drwy gadw llygad ar gymydog nad ydym wedi ei weld am ddiwrnod neu ddau neu drwy ffonio ffrind os ydym yn pryderu y gallant fod yn unig neu'n ynysig.
"Mae preswylwyr yn Abertawe wedi dangos ysbryd cymuned gwych dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn parhau ymhell ar ôl i'r feirws roi'r gorau i effeithio ar ein bywydau."
Meddai Amanda Carr, Cyfarwyddwr CGGA, "Rydym yn parhau i weld pobl arbennig Abertawe, yn ogystal â'r sector gwirfoddol a chymunedol ehangach, yn camu ymlaen unwaith eto.
"Fel cymuned, gallwn i gyd sicrhau bod help ar gael i'r rheini y mae ei angen arnynt - p'un a'i gwirfoddolwr, sefydliad, ffrind neu gymydog sy'n rhoi'r help hynny. Nid yw her yr 20 mis diwethaf wedi effeithio ar dosturi pobl y wlad, ac rydym yn gwybod eu bod yn parhau i ofalu am eu cymuned, gan sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei anghofio."