Toglo gwelededd dewislen symudol

Magu plant corfforaethol

Pan fydd plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol o dan Orchymyn Gofal, daw'r cyngor yn rhiant corfforaethol â chyfrifoldeb cyfreithiol a moesol dros y plentyn hwnnw.

Er bod llawer o agweddau ar gyfrifoldeb magu plant corfforaethol cyngor yn cael eu dirprwyo i weithwyr gofal plant proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, mae gan aelodau etholedig (cynghorwyr) rôl bwysig i'w chyflawni.

Pa gyfrifoldebau sydd gan gynghorwyr?

Fel rhieni corfforaethol, mae gan yr holl gynghorwyr gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn cyflawni'r canlyniadau y byddai pob rhiant da yn eu dymuno i'w plant.  Golyga hyn sicrhau eu bod yn ddiogel a darparu cyfleoedd i'w helpu i gyflawni eu potensial. Mae gan rieni corfforaethol gyfrifoldeb am addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, iechyd, lles, cyfleoedd hamdden, tai a diwylliannol y plentyn.

Fel rhieni corfforaethol, dylai cynghorwyr ystyried anghenion y plant hynny sy'n derbyn gofal ac effaith unrhyw benderfyniadau y maen nhw a'r cyngor yn eu gwneud.  Efallai y bydd gan gynghorwyr gyfleoedd penodol i wneud hyn drwy eu rolau pwyllgor neu gabinet, fel rhan o'u cyfrifoldebau craffu neu drwy waith fel llywodraethwr ysgol.  Gellir gwneud hyn drwy ofyn cwestiynau am bethau megis:

  • pa mor ddiogel yw plant sy'n derbyn gofal
  • pa mor dda mae'r awdurdod lleol yn gofalu amdanynt
  • pa mor dda yw perfformiad addysg plant sy'n derbyn gofal
  • sut diwellir anghenion plant sy'n derbyn gofal
  • beth sy'n cael ei wneud i gefnogi plant sy'n derbyn gofal pan fyddant yn gadael gofal.

Beth yw rôl y Fforwm Magu Plant Corfforaethol?

Fforwm Magu Plant Corfforaethol Abertawe yw grŵp o gynghorwyr sydd â rôl arweiniol wrth hyrwyddo rôl magu plant corfforaethol yn yr awdurdod lleol a'r tu allan iddo a chyfrifoldebau ffurfiol ychwanegol sy'n ymwneud â magu plant corfforaethol.  Mae gan ei aelodau ddealltwriaeth fanwl o'r materion sy'n effeithio ar blant sy'n derbyn gofal a byddant yn hyrwyddo eu hawliau.  Maent yn adolygu ac yn monitro gwasanaethau a chefnogaeth i blant sy'n derbyn gofal i sicrhau y cyflawnir canlyniadau a bod proses gynllunio gadarn ar waith. 

Mae gan aelodau'r fforwm gysylltiad uniongyrchol â phlant a phobl ifanc er mwyn deall eu barn a'r hyn sydd bwysicaf iddynt, ac maent yn cefnogi digwyddiadau sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Awst 2021