Gwneud cais am ostyngiad Treth y Cyngor i berson sengl
Os rydych dros 18 oed a'r unig berson sy'n byw yn yr eiddo, gallwch wneud cais am ostyngiad 25% ar eich bil.
Mae bil Treth y Cyngor yn rhagdybio bod o leiaf 2 oedolyn (dros 18 oed) yn byw yn eich cartref. Gallech gael gostyngiad hefyd os ydych yn byw gyda phobl nad ydynt yn cael eu cyfrif fel oedolion at ddibenion Treth y Cyngor ac yn cael eu diystyru.