Grant Gaeaf Llawn Lles 2024 / 2025 - COAST
Mae Cronfa COAST yn adeiladu ar rowndiau blaenorol COAST a'i rhagflaenwyr. Mae'n ceisio darparu gweithgareddau am ddim neu fforddiadwy i bobl sy'n preswylio neu'n cael eu cefnogi yn Abertawe.
Mae Cronfa Grant Gweithgareddau COAST wedi'i hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Bydd y gronfa'n targedu gweithgareddau'n benodol ar gyfer:
- Plant, pobl ifanc a theuluoedd - a ddarperir yn ystod gwyliau ysgol a phenwythnosau tan 28 Chwefror 2025.
- Pobl dros 50 oed - a ddarperir rhwng 14 Rhagfyr 2024 a 28 Chwefror 2025.
I gyflawni hyn, rydym yn darparu cyllid i gyflwyno cyfleoedd a gweithgareddau sydd:
- Am ddim / fforddiadwy i bobl sy'n gymwys ar eu cyfer.
- Yn hawdd eu cyrchu ac yn cael eu cynnal o fewn cymunedau lleol.
- Yn briodol i oedran.
- Yn cefnogi mynediad cyfartal i bobl o bob gallu.
Amlinellir rhai ystyriaethau isod:
- Sicrhau bod rhaglen gynhwysol a chytbwys o weithgareddau sy'n briodol i oedran, y gall pawb sydd am gymryd rhan gael mynediad atynt yn hawdd.
- Cynnig amrywiaeth o weithgareddau chwarae, chwaraeon, diwylliannol ac eraill mewn amrywiaeth o leoliadau.
- Lle bynnag y bo modd, dylid cynnal gweithgareddau mewn lleoliadau hygyrch y gellir eu cyrraedd ar droed neu ar gludiant cyhoeddus.
- Dylai ceisiadau ar gyfer prosiectau a gyflwynir gan ddarparwyr / grwpiau / glybiau presennol fod yn ychwanegol at weithgareddau neu ddarpariaeth.
- Bydd ceisiadau ar gyfer gweithgareddau rheolaidd grŵp gyda'i garfan sefydledig yn aflwyddiannus.
- Ni fydd teithiau y tu allan i ardal Abertawe'n gymwys am gyllid.
Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 28 Chwefror 2025.
Addaswyd diwethaf ar 12 Tachwedd 2024