Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Gaeaf Llawn Lles 2025 / 2026 - COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)

COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)

Mae Cronfa COAST yn adeiladu ar rowndiau blaenorol COAST a'i rhagflaenwyr. Ei nod yw darparu gweithgareddau am ddim neu fforddiadwy i bobl sy'n byw yn Abertawe neu'n cael eu cefnogi yma.

Ariennir Cronfa Grantiau Gweithgareddau COAST gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Bydd y gronfa'n targedu gweithgareddau'n benodol ar gyfer:

  • plant, pobl ifanc a theuluoedd - cyflwynir yn ystod cyfnodau gwyliau'r ysgol rhwng 25 Hydref 2025 a 22 Chwefror 2026.
  • 50 oed ac yn hŷn - fe'u cyflwynir rhwng 1 Rhagfyr 2025 a 28 Chwefror 2026.

I gyflawni hyn, rydym yn darparu cyllid i gyflwyno cyfleoedd a gweithgareddau sydd:

  • Am ddim / yn fforddiadwy i bobl sy'n gymwys ar eu cyfer.
  • Yn hawdd cael mynediad atynt ac sy'n cael eu cynnal mewn cymunedau lleol.
  • Yn briodol i oedran.
  • Yn cefnogi mynediad cyfartal i bobl o bob gallu.

Amlinellir rhai ystyriaethau isod:

  • Sicrhau bod rhaglen gynhwysol a chytbwys o weithgareddau sy'n briodol i oedran, y gall pawb sydd am gymryd rhan gael mynediad atynt yn hawdd.
  • Cynnig amrywiaeth o weithgareddau chwarae, chwaraeon, diwylliannol ac eraill mewn amrywiaeth o leoliadau.
  • Lle bynnag y bo modd, dylid cynnal gweithgareddau mewn lleoliadau hygyrch y gellir eu cyrraedd ar droed neu ar gludiant cyhoeddus.
  • Dylai ceisiadau ar gyfer prosiectau a gyflwynir gan ddarparwyr / grwpiau / glybiau presennol fod yn ychwanegol at weithgareddau neu ddarpariaeth arferol, a dylent ymdrechu i ddenu cynulleidfaoedd newydd.
  • Bydd ceisiadau ar gyfer gweithgareddau rheolaidd grŵp gyda'i garfan sefydledig yn aflwyddiannus.
  • NI fydd teithiau y tu allan i ardal Abertawe'n gymwys am gyllid.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 28 Chwefror 2026.

Grant Gaeaf Llawn Lles 2025 / 2026 - Gwneud cais ar-lein

Gwnewch gais ar-lein am y Grant Gaeaf Llawn Lles.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Medi 2025