Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Gaeaf Llawn Lles 2025 / 2026 - Cymorth Bwyd Brys

Cymorth Bwyd Brys

Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn Abertawe.

Diben y gronfa yw cefnogi nifer cynyddol o bobl sy'n wnebu tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd drwy gryfhau mentrau bwyd cymunedol sydd mewn bod yn Abertawe, gan gynnwys rhoi ffocws ar weithgarwch sy'n helpu i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd. Mae'r rownd hon yn darparu refeniw yn unig.

Mae amodau a thelerau'r grant yn dweud:

Gellir defnyddio cyllid refeniw i ddatblygu neu gryfhau prosiectau fel archfarchnadoedd cymdeithasol, caffis cymunedol, clybiau cinio a dosbarthiadau coginio cymunedol. Er enghraifft, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Prynu bwyd o ansawdd da a nwyddau hanfodol (NID yw cyllid ar gyfer bod yn aelod o Fareshare yn gymwys).
  • Hybu gallu sefydliadau bwyd cymunedol i ddiwallu anghenion eu cwsmeriaid, gan gynnwys anghenion amrywiol eu cymunedau.
  • Darpariaeth ar gyfer y rheini sy'n anodd eu cyrraedd drwy gefnogaeth arbenigol fel gwasanaeth allgymorth neu sicrhau y darperir bwyd sy'n bodloni gofynion amrywiol y gymuned.
  • Hyfforddiant i wirfoddolwyr (e.e. cymwysterau trin bwyd / hyfforddiant Sgiliau Maeth am Oes)
  • Datblygu hybiau cymunedol sy'n cydleoli ystod o wasanaethau cymorth fel lles, cyngor ar arian a thai, sydd wedi'u datblygu o gwmpas darparu bwyd i'r gymuned fel banciau bwyd, caffis a phantrïoedd cymunedol.
  • Gorbenion.
  • Treuliau i wirfoddolwyr.

Mae croeso i aelodau Bwyd Abertawe (partneriaeth bwyd lleol) wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd a diffyg diogeled bwyd, gan gynnwys prosiectau sy'n cysylltu â phrosiectau cymunedol lleol eraill.

Dylai prosiectau ystyried sut maent yn bwriadu darparu cymorth yn y ffordd fwyaf urddasol bosib, gan leihau stigma tlodi. ewch i https://wcpp.org.uk/publication/lifting-the-lid/ i gael rhagor o wybodaeth am stigma tlodi.

Felly, byddwn yn croesawu ceisiadau am gyllid sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd, gan gynnwys mynd i'r afael â'r gwir achosion.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2026.

Grant Gaeaf Llawn Lles 2025 / 2026 - Gwneud cais ar-lein

Gwnewch gais ar-lein am y Grant Gaeaf Llawn Lles.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Medi 2025