Grant Gaeaf Llawn Lles 2025 / 2026 - Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau
Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau - cyflwynir yn ystod cyfnodau gwyliau'r ysgol rhwng 25 Hydref 2025 a 22 Chwefror 2026
Pwrpas y cyllid yw helpu gyda darparu mynediad at fwyd yn ystod gwyliau'r ysgol i blant oedran ysgol a'u teuluoedd sy'n cael trafferth gyda'r costau ychwanegol dros wyliau'r ysgol heb fynediad at brydau ysgol am ddim. (Gellir gwneud cais am gymorth bwyd i bobl a theuluoedd heb blant oed ysgol i'r rhan Cymorth Bwyd Brys o'r grant hwn, neu y tu allan i'r cyfnod amser hwn).
Rydym am weithio gyda chi i ddarparu cymorth ychwanegol i deuloedd â phlant er mwyn gwella'r mynediad at fwyd o ansawdd da.
Pwrpas y cyllid yw darparu cymorth ychwanegol sy'n helpu i liniaru tlodi bwyd plant ac ansicrwydd bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol drwy:
- Ddarparu pecynnau bwyd, neu fynediad at fwyd (e.e. dosbarthu talebau bwyd fel y bo'n briodol) y gellir mynd ag ef oddi ar y safle neu
- Ddarparu bwyd / prydau o fwyd o ansawdd da ar y safle.
Mae gwariant cymwys yn cynnwys y canlynol (yn Abertawe):
- Costau ar gyfer darparu / paratoi bwyd ychwanegol a ddarparwyd i'w fwyta yn eich prosiect.
- Costau ar gyfer darparu bwyd ychwanegol neu fynediad at fwyd (e.e. talebau bwyd) y gellir mynd ag ef oddi ar y safle.
- Costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â dosbarth / casglu bwyd.
- Treuliau ychwanegol ar gyfer gwirfoddolwyr.
Er mwyn sicrhau gwerth am arian, byddem yn disgwyl na fydd y gost fesul pryd yn fwy na £5 y pen.
Mae'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwariant refeniw yn unig.
Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 28 Chwefror 2026.