Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Gaeaf Llawn Lles 2024 / 2025 - Cronfa Bwyd Gwyliau

Diben y cyllid yw helpu i ddarparu mynediad at fwyd yn ystod gwyliau ysgol y Nadolig a Hanner tymor y Gwanwyn i blant oedran ysgol a'u teuluoedd sy'n cael trafferthion o ran costau.

Gwyliau ysgol y Nadolig (21 Rhagfyr 2024 - 5 Ionawr 2025) a Hanner Tymor y Gwanwyn (22 Chwefror - 2 Mawrth 2025)

Diben y cyllid yw helpu i ddarparu mynediad at fwyd yn ystod gwyliau ysgol y Nadolig a Hanner tymor y Gwanwyn i blant oedran ysgol a'u teuluoedd sy'n cael trafferthion o ran costau. (Gellir cyflwyno cais am gymorth bwyd i bobl a theuluoedd heb blant oedran ysgol drwy ran Cymorth Bwyd Uniongyrchol y grant hwn, neu y tu allan i'r cyfnod hwn o amser.)

Rydym am weithio gyda chi i ddarparu cymorth ychwanegol i deuluoedd â phlant i wella mynediad at fwyd o ansawdd da.

Diben y cyllid yw darparu cymorth ychwanegol sy'n helpu i liniaru tlodi bwyd plant ac ansicrwydd ynghylch bwyd plant yn ystod gwyliau'r ysgol drwy:

  • Ddarparu pecynnau bwyd neu fynediad at gludfwyd (e.e. dosbarthu talebau bwyd fel y bo'n briodol) neu
  • Ddarparu bwyd / prydau o ansawdd dar ar y safle.

Mae'r gwariant cymwys yn cynnwys y canlynol (yn Abertawe):

  • Costau ar gyfer darparu / paratoi bwyd ychwanegol i'w fwyta fel rhan o'ch prosiect.
  • Costau ar gyfer darparu bwyd ychwanegol neu fynediad ychwanegol at gludwyd (e.e. talebau bwyd).
  • Costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â dosbarthu / caslgu bwyd.
  • Treuliau ychwanegol gwirfoddolwyr.

Mae elfen hon y grant yn darparu cyllid refeniw'n unig.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 2 Mawrth 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Tachwedd 2024