Grant Gaeaf Llawn Lles 2025 / 2026 - Lleoedd Llesol Abertawe
Lleoedd Llesol Abertawe
Rhaglen sy'n seiliedig ar leoedd yw Lleoedd Llesol Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi lleoedd diogel a chynnes yn Abertawe lle y darperir amgylchedd croesawgar, hygyrch, diogel a chynnes i unigolion.
Diben y cyllid yw cefnogi darparu lleoedd diogel a chynnes yn y gymuned leol y gall pobl fynd iddynt i elwa o ryngweithio cymdeithasol. Mae Lleoedd Llesol Abertawe yn agored i bawb, gan gynnwys pobl hŷn neu sy'n agored i niwed, pobl sy'n gweithio gartref a phobl sy'n ynysig.
Gellir defnyddio'r cyllid i sefydlu / ailsefydlu lleoedd ac ychwanegu gwerth at y rheini sydd eisoes ar waith i gefnogi lles economaidd a chymdeithasol pobl yn Abertawe.
Nid cyllid yw hwn i gymryd lle neu ddybylygu ymdrechion presennol ond bwriedir iddo gael ei ddefnyddio i estyn neu ehangu'r Lleoedd Llesol sydd eisoes yn bod yn Abertawe, neu eu datblygu ymhellach. Dylid defnyddio'r cyllid i gefnogi Lleoedd Llesol Abertawe yn uniongyrchol a'r bobl sy'n mynd iddyn nhw ac ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'ch Lle Llesol.
Disgwylir y bydd y cyllid yn cefnogi lleoedd sy'n cynnig amgylchedd croesawgar, hygyrch, diogel a chynnes i unigolion. Bydd y rhain yn fwy na lleoedd cynnes i unigolion fynd iddynt. Byddant hefyd yn lleoedd croesawgar, agored a chynhwysol a fydd ar gael i bawb yn y gymuned. Bydd y ffocws ar nodi anghenion lleol ac ymateb mewn modd sy'n diwallu'r anghenion hynny.
Gallai darparwyr lleoedd diogel a chynnes gynnwys:
- lluniaeth sylfaenol a byrbrydau (fel gofyniad lleiaf) yn ogystal â darparu pryd o fwyd mwy sylweddol lle y bo modd.
- darparu gwasanaethau cyngor a chymorth i'r rheini sy'n eu defnyddio, e.e. cyngor a chymorth ar faterion ariannol, iechyd a lles neu hygyrchedd digidol.
- gweithgareddau cyfoethogi eraill fel ymarfer corff, y celfyddydau neu weithgareddau diwylliannol (yn amodol ar leoliad ac argaeledd).
Mae enghreifftiau o wariant cymwys yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i:
- ddarparu lluniaeth, byrbrydau ac os yw'n berthnasol i'r lleoliad, brydau bwyd mwy sylweddol.
- costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag ymestyn oriau agor cyfleusterau presennol neu gyfraniadau at wres a golau os caiff cyfleusterau eu hagor yn benodol fel Lle Llesol Abertawe.
- costau ychwanegol sy'n ymwneud â chostau glanhau, cael gwared ar sbwriel (er enghraifft neuaddau cymunedol).
- cyfarpar i gefnogi addasu lleoedd, cadeiriau, byrddau.
- cyfraniad at gostau rhyngrwyd (yn enwedig i gefnogi darpariaeth gwasanaeth cynghori mewn ardaloedd / canolfannau cymunedol) - nid yw hyn yn cynnwys costau sy'n ymwneud â chaledwedd.
- cyfleusterau ar gyfer gwefru ffonau symudol / cyfarpar TG.
- eitemau bach fel tegellau, cwpanau, platiau etc.
- eitemau / gweithgaredd au cyfoethogi.
- cludiant i Leoedd Llesol Abertawe ac yn ôl - yn dibynnu ar anghenion unigolion.
- costau gwirfoddolwyr.
- cynyddu ymwybyddiaeth/hyrwyddo Lleoedd Llesol Abertawe.
Dylai prosiectau ystyried sut maent yn bwriadu darparu cymorth yn y ffordd fwyaf urddasol bosib, gan leihau stigma tlodi. Ewch i https://wcpp.org.uk/publication/lifting-the-lid/ i gael rhagor o wybodaeth am stigma tlodi.
Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2026.