Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwnewch gais yn awr am gyllid ar gyfer bwyd, gweithgareddau a mannau cynnes

Gall grwpiau a sefydliadau yn Abertawe sy'n darparu bwyd am ddim i blant oed ysgol yn ystod y gwyliau, gweithgareddau am ddim neu â chymhorthdal neu sy'n agor eu drysau i gynnig croeso cynnes i breswylwyr wneud cais o hyd am gyllid i gefnogi eu gwaith.

Playday free food

Playday free food

Mae Cyngor Abertawe wedi trefnu bod hyd at £500,000 ar gael i gefnogi miloedd o bobl a chymunedau ar draws y ddinas y gaeaf hwn.

Mae'r grant Galluogi Cymunedau newydd yn ceisio adeiladu ar y rhaglenni llwyddiannus sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd pobl yn Abertawe yn y blynyddoedd diweddar.

Yn ystod gwyliau'r haf eleni, ariannodd y cyngor fwy na 40 o grwpiau a sefydliadau i ddarparu prydau, parseli bwyd a thalebau bwyd a ddarparodd tua 65,000 o brydau i bobl ifanc.

Roedd mwy na 20,000 o bobl ifanc, teuluoedd a phreswylwyr hŷn wedi gallu mynd i weithgareddau cymorthdaledig ac am ddim a gynhaliwyd gan fwy na 100 o bartneriaid gwahanol.

A'r gaeaf diwethaf, agorodd dros 80 o elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill eu drysau i gynnig mannau cynnes a chroesawgar i bobl fynd iddynt, diolch i fenter Lleoedd Llesol Abertawe.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Mae'r Grant Galluogi Cymunedau newydd hwn yn dod â thri llinyn ynghyd - cymorth bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol, gweithgareddau cymorthdaledig ac am ddim a Lleoedd Llesol Abertawe.

"Mae e' yno i gefnogi clybiau, sefydliadau a grwpiau cymunedol yn y gwaith maen nhw'n ei wneud a gallant wneud cais am gyllid ar gyfer un elfen neu fwy os yw'n briodol."

Mae ceisiadau'n agor heddiw ac mae gan grwpiau tan ddydd Sul 26 Tachwedd i gyflwyno'u cynigion.

Gallant wneud hyn drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/cronfaGalluogiCymunedau