Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymdrech y cyngor i ddiogelu blodau gwyllt a phryfed yn gymeradwy

Mae tîm parciau Cyngor Abertawe yn defnyddio ymagweddau newydd clyfar at dorri gwair sy'n helpu i ddiogelu planhigion a phryfed ledled cymunedau'r ddinas.

New Grass Cutting

New Grass Cutting

Diolch i grantiau Llywodraeth Cymru ar gyfer offer newydd a chyngor gan yr eco-elusen Plantlife, mae'r cyngor yn defnyddio ffyrdd newydd o dorri gwaith sy'n hybu peillwyr, blodau gwyllt a pharciau ac ymylon sy'n amgylcheddol iach.

Daw'r cam hwn fel rhan o ymrwymiad y cyngor i chwarae ei ran wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth drwy hybu planhigion ac mae ar frig ei fenter plannu blodau gwyllt hynod boblogaidd.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Ni arweiniodd y ffordd ymysg awdurdodau lleol gyda'r fenter blodau gwyllt, gan greu hafanau i bryfed a oedd hefyd yn ychwanegiadau lliwgar i gymunedau ac ymylon ffyrdd lleol.

"Ar yr un pryd, lleihaom faint o wair rydym yn ei dorri i ganiatáu i bryfed a blodau gwyllt ffynnu mewn parciau ac ar ymylon ffyrdd. Nawr rydym yn bwriadu hybu amrywiaeth lleol yn fwy byth gyda'n rhaglen rheoli, torri a chasglu gwair.

"Mae ein hymagwedd newydd at dorri gwair yn ychwanegol at yr hyn rydym eisoes yn ei wneud, gan olygu y ceir y gorau o ddau fyd am ei fod yn annog cynnal llystyfiant sy'n gyfoethog mewn rhywogaethau mewn parciau ac ar ymylon. Mae hefyd yn rheoli tyfiant planhigion ymledol sydd weithiau'n gallu meddiannu cynefinoedd.

"Ond y peth gorau am hyn yw ein bod yn torri'r gwair ddwywaith yn y tymor ar adegau penodol fel y gall y blodau gwblhau eu cylch bywyd a dosbarthu hadau'n naturiol yn barod ar gyfer y tro nesaf.

"Mae'r ymagwedd hon at ardaloedd glaswelltog sef torri'n llai aml a thorri'n hwyrach yn ailgyflenwi'r banc hadau, yn adfywio amrywiaeth blodeuol ac yn darparu cynefinoedd i beillwyr ar draws y sir."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r cynllun gydag arian grant ar gyfer cyfarpar torri arbenigol a pheiriannau newydd. Mae'n torri ac yn casglu gwair gan gael gwared ar lystyfiant marw yn ofalus ar yr un pryd er mwyn caniatáu i aer a glaw gyrraedd y pridd fel bod gan hadau le i egino.

I ddysgu mwy am sut mae'r rhaglen torri a chasglu gwair yn helpu i hybu bioamrywiaeth yn ein cymunedau, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/torriachasglu

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Awst 2021