Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe i dderbyn teitl 'gwyrdd' brenhinol mawr ei fri

Mae Abertawe ar fin dod yn Ddinas Hyrwyddo Canopi Gwyrdd y Frenhines fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y frenhines.

kingsway trees

Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines wedi cyhoeddi y bydd Abertawe'n ymuno â deuddeg dinas arall o gwmpas y DU, gan gynnwys Manceinion a Chaerlŷr, i helpu i ddathlu 70 o flynyddoedd ers i Ei Mawrhydi y Frenhines esgyn i'r orsedd.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Mae'n anrhydedd enfawr i Abertawe gael ei henwebu fel Dinas Hyrwyddo Canopi Gwyrdd y Frenhines.

"Mae'n cydnabod yr hyn a gyflawnwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i greu parc dinesig newydd yng nghanol y ddinas - y cyntaf ers canrif yn Abertawe - a phlannu miloedd o goed ar hyd llwybrau allweddol yn Abertawe.

"Rydym hefyd yn cael ein cydnabod am y gwaith rydym wedi'i wneud gyda phartneriaid i blannu hyd yn oed ragor o goed o amgylch y ddinas, gan gynnwys miloedd o goed newydd ar safleoedd fel caeau chwarae Mynydd Newydd ac ardaloedd preswyl fel Pen-lan.

"Ond mae'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y misoedd nesaf i wella'n hymroddiad i blannu coed a choetiroedd yr un mor bwysig.

"Mae ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys cynigion i weithio gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr i greu gwrychoedd newydd a choetiroedd brodorol bach o fewn safleoedd ysgolion a mannau gwyrdd lleol.

"Rydym hefyd yn bwriadu plannu mwy o goed mewn parciau lleol a mannau gwyrdd, a chefnogi grwpiau lleol fel Prosiect Perllan Abertawe, Prosiect Mannau Gwyrdd Cymunedol Abertawe a Phlanhigfa Gymunedol Coeden Fach.

"Ein huchelgais yw y bydd yn dod yn gyrchfan ar gyfer adloniant a chynadleddau yn ogystal â dod yn fan i eistedd ar fainc neu mewn ardal laswelltog i fwynhau golygfeydd o'r ddinas a'r traeth neu sgwrs dros goffi gyda ffrindiau."

Mae mwy na 100 o barciau a mannau gwyrdd o gwmpas Abertawe, a chanddynt rai o'r golygfeydd a'r fioamrywiaeth orau sydd ar gael yn unman ym Mhrydain.

 Mae Ffordd y Brenin wedi'i hailfodelu i fod yn ardal wyrdd newydd yng nghanol y ddinas, sy'n cynnwys mwy na dwbl nifer y coed a'r mannau gwyrdd nag oedd ganddi gynt. Mae'r cyngor wedi bod yn ymgynghori ar wneud gwaith tebyg yng ngerddi Sgwâr y Castell, gyda newyddion ar gynigion yn cael ei ddisgwyl yn y misoedd nesaf.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Mae'r newyddion am y ddinas yn derbyn y wobr hon yn gydnabyddiaeth go iawn o'r gwaith rydym wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf a hefyd y cynlluniau sydd gennym ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n amlwg yn cydnabod yr ymdrechion rydyn ni'n eu gwneud i wella isadeiledd gwyrdd y ddinas a gwella'n hamgylchedd lleol.

"Mae ein holl lwybrau beicio newydd yn elwa ar blannu coed ychwanegol. Yn ddiweddar rydym wedi plannu mwy o goed yn nifer o'n parciau. Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cydnabod y gwaith a wnaed i reoli'n coed presennol a chael gwared ar goed afiach a pheryglus, a rhoi rhywogaethau mwy addas yn eu lle sy'n ffynnu mewn ardaloedd trefol."

Dechreuodd y tymor plannu coed fis diwethaf a'r ardaloedd a fydd yn derbyn coed newydd yw'r ardal o gwmpas cyffordd Broadway uwchben Tŷ Coch, Pontybrenin, Parc Sgeti, Parc Ynystawe, Wind Street, Townhill a Gorseinon. Disgwylir i lwybrau beicio a cherdded oddi ar y ffordd elwa ar blannu rhagor o goed hefyd.

Yn ychwanegol i hyn, mae gwaith plannu coed hefyd yn cael ei gynllunio ar gyfer ymylon ffyrdd ac mewn cymunedau a chyfadeiladau tai lloches fel rhan o welliannau amgylcheddol dan y rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru gwerth £500m.