Toglo gwelededd dewislen symudol

Cerbydlu cerbydau trydan yn cyrraedd carreg filltir o 100

Mae cerbydlu cerbydau trydan Cyngor Abertawe bellach wedi cyrraedd carreg filltir o 100.

Council electric vehicle

Mae cerbydlu'r cyngor bellach yn cynnwys mwy na 100 o faniau, ceir, ysgubwyr ffordd a cherbyd sbwriel wedi'u pweru gan drydan, gyda rhagor yn dod dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Mae un ar bymtheg o fecanyddion yn ei dîm trafnidiaeth wedi cael eu hyfforddi i ofalu am y cerbydau ac mae rhagor o bwyntiau gwefru wedi cael eu gosod mewn depos i'w gwefru'n rheolaidd.

Mae'r 35 o gerbydau ychwanegol hyn yn golygu bod Abertawe yn parhau i osod esiampl yng Nghymru wrth iddo weithio tuag at fod yn gyngor carbon sero net erbyn 2030.

Mae'r cyngor bellach yn gweithredu mwy na 100 o faniau trydan o feintiau amrywiol yn ogystal â dau ysgubwr ffordd newydd a bwerir gan drydan. Mae e' hefyd yn cydweithio â'r Gwasanaeth Ynni ac awdurdodau lleol eraill ar dreialu cenhedlaeth newydd o gerbydau casglu sbwriel a bwerir gan drydan, gydag un ohonynt yn Abertawe.

 

 

Close Dewis iaith