Toglo gwelededd dewislen symudol

Waliau gwyrdd a byw

Wal sydd wedi'i gorchuddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol â llystyfiant yw wal fyw, sydd hefyd yn cael ei disgrifio weithiau fel wal werdd a bywneu wal werdd.

Nod wal werdd yw efelychu'r gwasanaethau ecosystem (h.y. y manteision y mae pobl yn eu cael o natur) a gofynion ecolegol yr ardal leol. Mae'r cyngor yn defnyddio'r term wal fyw i wahaniaethu rhwng wal werdd fyw sy'n cynnig ystod eang o fanteision amgylcheddol a manteision iechyd a waliau artiffisial neu fwsogl nad ydynt yn byw ac sydd felly'n cynnig manteision cyfyngedig.  

Gall waliau byw fod yn rhai mewnol neu allanol. Mae waliau byw allanol yn cynnig llawer o fanteision amgylcheddol ac iechyd gan gynnwys gwella bioamrywiaeth drefol, amsugno dŵr wyneb ffo, lleihau llygredd aer, effeithlonrwydd ynni (helpu i gadw adeiladau'n gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf) a gwella gwerth amwynder. Mae waliau byw mewnol yn cynnig manteision iechyd a lles i ddeiliaid adeiladau, fodd bynnag maent yn cynnig ystod gyfyngedig o wasanaethau ecosystem. 

Mae tri phrif fath o wal fyw: 

  1. Ffasadau gwyrdd - yn draddodiadol defnyddiwyd planhigion dringo i lasu waliau. Gosodir systemau gwifrau neu ddelltwaith ar neu yn erbyn waliau i gynnal planhigion dringo. Mae'r systemau hyn yn gost effeithiol i'w gosod, yn lleihau cyswllt uniongyrchol rhwng y wal a'r planhigyn ac yn annog tyfiant.  
  2. System fodiwlaidd - mae'r datrysiad uwch-dechnoleg hwn yn defnyddio systemau modiwlaidd. Mae ystod eang o systemau ar y farchnad, gan gynnwys y rheini a adeiladwyd o blastig, metel neu Rockwool. Mae systemau modiwlaidd yn galluogi planhigion i gael eu plannu mewn cyfrwng tyfu yn y modiwlau, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys system ddyfrhau integredig.
  3. Gerddi glaw fertigol - gardd law fertigol yw lle mae wal fyw yn nodwedd draenio drefol gynaliadwy. Caiff hyn ei gyflawni drwy ddatgysylltu peipiau dŵr a storio, yna defnyddio dŵr glaw er mwyn dyfrhau. Gall fod yn system 'uchel' (gweithredol) h.y. yn defnyddio pympiau i ddyfrhau, neu'n 'isel' (goddefol) h.y. lle mae dŵr yn treiddio drwy bilen athraidd.    

Sut mae waliau gwyrdd yn cefnogi amcanion y strategaeth?

Mae waliau gwyrdd yn darparu nifer o wasanaethau ecosystem ac felly fanteision i les a bywyd gwyllt. Gall waliau byw allanol gyfrannu'n sylweddol at bob un o'r 5 egwyddor Isadeiledd Gwyrdd. Nid yw waliau byw mewnol yn bodloni'r 5 egwyddor gan nad ydynt yn fioamrywiol ac mae ganddynt fanteision amlswyddogaethol a newid yn yr hinsawdd cyfyngedig. Ceir disgrifiad llawn o'r 5 egwyddor Isadeiledd Gwyrdd ar dudalen 21 o'r strategaeth.

Egwyddorion Isadeiledd Gwyrdd

 

Cyfraniad

 

Waliau byw allanol

Waliau byw mewnol

Amlswyddogaethol
Yn darparu ystod o wasanaethau ecosystem

  • Is-haen yn amsugno dŵr glaw
  • Gellir eu dylunio fel gerddi glaw fertigol (SuDS)
  • Anwedd-drydarthiad ar gyfer oeri yn yr haf
  • Cynefin, cysgod a bwyd i blanhigion, adar a phryfed
  • Nodweddion thermol yn y gaeaf
  • Yn gwella amwynder a gwerth diwylliannol
  • Yn amsugno llygredd aer
  • Gwerth amwynder a diwylliannol (celf fotaneg)
  • Gwell ansawdd aer ac acwsteg

Addaswyd ar gyfer newid yn yr hinsawdd
Rhagwelir y bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu amleddau a dwyster tywydd poeth a chawodydd trwm.

  • Mae gerddi glaw fertigol neu systemau dyfrhau dŵr llwyd yn lleihau dŵr wyneb
  • Lleihau effaith yr ynys wres drefol
  • Dal a storio carbon yn yr is-haen

Dim cyfraniad uniongyrchol

Iach
Manteision i iechyd a lles corfforol a meddyliol.

  • Gwella gwerth amwynder a diwylliannol
  • Lleihau llygredd aer a dŵr
  • Manteision lles
  • Manteision economaidd (h.y. costau ynni is, mwy o amser hamdden/seibiant, cadw staff a chynhyrchiant
  • Gwerth amwynder a diwylliannol (celf fotaneg)
  • Gwerth lles
  • Gwell ansawdd aer ac acwsteg
  • Gwelliant o ran cynhyrchiant, creadigrwydd a boddhad staff, ynghyd â chadw staff

Bioamrywiol 
Wedi'i blannu gydag ystod o blanhigion a chanddynt werth bioamrywiaeth amlwg

  • Creu cynefin newydd i fywyd gwyllt
  • Cynefin, cysgod a bwyd i blanhigion, adar a phryfed
  • Cysylltedd ar draws canol y ddinas h.y. 'priffyrdd pryfed' ar gyfer pryfed peillio
  • Wedi'u dylunio i gefnogi a chynyddu rhywogaethau brodorol

Dim cyfraniad uniongyrchol

Doeth a chynaliadwy
Lleihau dibyniaeth ar danwyddau ffosil a'r defnydd o adnoddau naturiol, defnyddio technolegau ar gyfer monitro a rhannu data

  • Defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu h.y. is-haen
  • Nid oes angen llawer o waith cynnal a chadw ar ffasadau gwyrdd
  • Helpu i wella perfformiad adeiladu a defnyddio llai o ynni ar gyfer gwresogi ac oeri
  • Defnyddio cynaeafu dŵr glaw/dŵr llwyd ar gyfer dyfrhau
  • Defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu h.y. is-haen

 

Rhywogaethau a argymhellir

Amcan craidd y strategaeth yw cynyddu bioamrywiaeth a chreu prif wythïen werdd drwy Ardal Abertawe Ganolog i gysylltu'r coridorau bywyd gwyllt cyfagos er mwyn creu cysylltiadau ar gyfer bywyd gwyllt. Dylai waliau byw bennu rhywogaethau brodorol neu rywogaethau sydd â gwerth bioamrywiaeth amlwg i fywyd gwyllt lleol gan greu 'priffyrdd pryfed' neu 'linellau pryfed', cysgod a bwyd ar gyfer bywyd gwyllt. Dylai rhywogaethau fod yn addas ar gyfer amodau agored a sych, yr amgylchedd lleol ac agosrwydd at y bae a'i ficrohinsawdd arfordirol cysylltiedig. Argymhellir cyngor gan ecolegwyr cymwysedig a phenseiri tirwedd ar ddewis rhywogaethau Mae planhigion sydd â gwerth bioamrywiaeth amlwg i'w gweld yn nogfen Plants for Pollinatorsy Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn https://www.rhs.org.uk/science/pdf/conservation-and-biodiversity/wildlife/plants-for-pollinators-garden-plants.pdf

Dylai'r cynefinoedd a grëir cael eu dylunio i gefnogi'r ecoleg leol h.y. planhigion, adar, anifeiliaid a chreaduriaid di-asgwrn-cefn a gallant gynnwys pentyrrau o foncyffion, pentyrrau o dywod, gwestai gwenyn a gwestai pryfed etc. 

Waliau byw a'r Offeryn Ffactor Mannau Gwyrdd (GSF)

Mae cywirdeb y gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan waliau byw allanol yn rhoi sgôr offeryn GSF uchel o 0.6 iddynt, gyda waliau byw bioamrywiol yn sgorio 0.7. Nid yw waliau byw mewnol, er eu bod yn werthfawr ar gyfer iechyd a lles pobl, yn darparu sgôr offeryn GSF.

Dyluniad, manyleb a chynnal a chadw

Wrth ddylunio wal fyw sicrhewch eich bod yn cysylltu â'r gwasanaethau perthnasol yn y cyngor. Mae angen ystyried effaith y wal ar yr isadeiledd a'r mannau cyfagos. Gall adrannau perthnasol gynnwys; Y Gwasanaethau Cynllunio, Priffyrdd, Draenio a Chadwraeth Natur, Dylunio Tirweddau.  

Mae angen i'r dyluniad ddangos sut mae'n bodloni'r 5 egwyddor Isadeiledd Gwyrdd, fel yr amlinellir uchod. 

Mae angen i'r cynllun gael ei gefnogi gan gynllun cynnal a chadw addas, sy'n mynd i'r afael â pha waith cynnal a chadw fydd ei angen a sut y bydd angen gwneud y gwaith cynnal a chadw hwn h.y. mynediad ar gyfer gwaith cynnal a chadw, planhigion newydd. 

Adnoddau/gwefannau defnyddiol

www.livingroofs.org.uk - Living Roofs yw prif wefan annibynnol y DU sy'n darparu newyddion am ymchwil a'r datblygiadau arloesol diweddaraf mewn technoleg toeon a waliau gwyrdd. 

Plants for Pollinators advice and downloadable lists / RHS Gardening - Royal Horticultural Society: Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol: defnyddiwch yr hidlydd 'plants for pollinators' yn y ddolen hon i weld y detholiad o blanhigion

Living Roofs and Walls - Technical Report: Supporting London Plan Policy - Living Roofs and walls, Technical Report: Supporting London Planning Policy, Greater London Authority 2008.                

Astudiaethau achos lleol

Coastal Housing, Potter's Wheel: Dyluniwyd a gosodwyd gan Scotscape, gan ddefnyddio Grant Isadeiledd Gwyrdd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Roedd y wal werdd yn rhan o'r gwaith adnewyddu ar 85-86 Ffordd y Brenin. Mae'r plannu a'r cydau pridd y gall aer fynd trwyddynt yn hidlo gronynnau ac mae'r llystyfiant yn darparu bwyd a chysgod i adar a phryfed ynghyd â gwerth amwynder. 

Parc Arfordirol:Mae parc arfordirol 1.1 erw Bae Copr yn cynnwys wal fyw â ffasâd gwyrdd sy'n rhedeg ar hyd ochr Oystermouth Road o'r maes parcio newydd. Mae'r wal fyw yn darparu lliw a gwerth amwynder drwy'r flwyddyn gron, yn cynnig cysgod a bwyd i adar a phryfed, yn amsugno llygredd a bydd dŵr wyneb sy'n llifo oddi arni'n oeri pethau yn yr haf.