Grŵp Croeso Abertawe
Mae gwaith celf a grëwyd gan Grŵp Croeso Abertawe'n cael ei arddangos yng nghanol y ddinas.
Gweithdy creadigol a gynhelir yn rheolaidd gan Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yw Grŵp Croeso, sy'n gweithio gydag artistiaid a gwirfoddolwyr lleol i ddod â phobl ynghyd drwy greu celf.
Paentiodd aelodau'r Grŵp Croeso bortreadau o ffrindiau, pobl maent yn eu hadnabod a pherthnasau, a gallwch eu gweld yn ychwanegu lliw at yr hysbysfyrddau o gwmpas prosiect Bae Copr sy'n werth £135 miliwn.
Dan amgylchiadau arferol, mae'r grŵp yn cwrdd yn rheolaidd yn yr oriel ac yn cymryd rhan mewn gweithdai a gweithgareddau sydd wedi'u trefnu ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y ddinas, ond mae croeso i bawb.
Ers dechrau'r pandemig Coronafeirws, mae cyfranogwyr ac artistiaid wedi bod yn cwrdd ar-lein a thrwy gyfryngau cymdeithasol, ond mae tîm y Glynn Vivian yn edrych ymlaen at gwrdd yn yr oriel eto pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Rheolir Grŵp Croeso gan swyddog dysgu a chyfranogiad yr oriel, Daniel McCabe, ac fe'i cefnogir gan grant oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyfeillion y Glynn Vivian. Mae'r artist cyswllt Mary Hayman yn gweithio gyda Daniel a gwirfoddolwyr yr oriel i gyflwyno gweithgareddau grŵp.
"Gall celf newid eich bywyd ac mae'r grŵp hwn yn newid bywydau er gwell. Drwy arddangos y gwaith hwn yn gyhoeddus, rydym yn cydnabod bod ein haelodau'n ddinasyddion gwerthfawr Abertawe. Rydym yn gyffrous iawn i groesawu'r grŵp yn ôl i'r oriel pan fydd hynny'n bosib, a gobeithiwn y bydd y cyhoedd sy'n gweld y paentiadau gwych hyn yn eu mwynhau." - Mary Hayman