Gwahanol fathau o eiriolaeth
Mae na nifer o wahanol fathau o Eiriolaeth a nodir yng Nghod Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Math o Eiriolaeth | Beth mae'n ei olygu |
---|---|
Hunaneiriolaeth | Pan fydd unigolion yn cynrychioli ac yn siarad drostynt eu hunain. |
Eiriolaeth anffurfiol | Pan fydd teulu, ffrindiau neu gymdogion yn cefnogi unigolyn wrth sicrhau bod ei ddymuniadau a'i deimladau yn cael eu clywed, a all gynnwys siarad ar ei ran. |
Eiriolaeth gyfunol | Mae'n cynnwys grwpiau o unigolion â phrofiadau cyffredin sy'n cael eu grymuso i gael llais a dylanwadu ar newid a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol. |
Eiriolaeth gan gymheiriaid | Un unigolyn sy'n gweithredu fel eiriolwr dros un arall sy'n rhannu profiad neu gefndir tebyg. |
Eiriolaeth ffurfiol | Gall gyfeirio at rôl eiriolaeth staff mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol a lleoliadau eraill lle mae angen i weithwyr proffesiynol, fel rhan o'u rôl, ystyried dymuniadau a theimladau'r unigolyn a helpu i sicrhau ei fod yn cael sylw priodol. |
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol | Mae hyn yn cynnwys eiriolwr proffesiynol, hyfforddedig yn gweithio mewn partneriaeth un i un ag unigolyn i sicrhau bod ei farn yn cael ei chyfleu'n gywir, a bod ei hawliau'n cael eu cynnal. Gall hyn fod ar gyfer un mater neu nifer o faterion. |
Eich hawliau mewn perthynas ag eiriolaeth
Mae gan rai pobl hawl gyfreithiol i eiriolwr oherwydd eu hamgylchiadau.
Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA)
Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ddyletswydd newydd ar awdurdodau lleol i ddarparu Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol i unrhyw berson (18+) y mae angen cymorth arno i oresgyn unrhyw rwystrau y gall eu hwynebu wrth gymryd rhan yn llawn 'yn y prosesau adolygu, cynllunio gofal a chymorth, asesu a diogelu'.
Mae Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol yn cefnogi pobl sy'n ei chael hi'n anodd mynegi eu barn i arfer eu hawliau, mynegi eu barn ac archwilio a gwneud dewisiadau gwybodus drwy helpu'r person i wneud y canlynol:
- Deall prosesau statudol
- Mynegi ei farn
- Deall sut i leisio'r hyn sy'n bwysig iddo a sut y gellir diwallu ei anghenion
- Gwneud penderfyniadau am ei drefniadau gofal a chymorth
- Deall ei hawliau
- Herio penderfyniadau
Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA)
Bydd Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA) yn darparu cymorth os yw person wedi'i asesu neu'n cael ei asesu o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
- Rhaid i awdurdodau lleol gyfarwyddo EGMA i gynrychioli unigolyn sydd 'heb gymorth fel arall'
- Cyfarwyddir EGMA 'i helpu pobl arbennig o agored i niwed nad oes ganddynt y gallu i wneud penderfyniadau pwysig am driniaeth feddygol ddifrifol a newidiadau i lety'
- Gellir cyfarwyddo IMCA mewn achosion diogelu a dylid ei gyfarwyddo mewn adolygiadau gofal
Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA)
Mae Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA) yn darparu cymorth lle mae person wedi cael ei asesu neu'n cael ei asesu o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
- Mae EIMA yn eiriolwr arbenigol sydd â hawliau cyfreithiol nad ydynt efallai ar gael i eiriolwyr eraill
- Bydd EIMA yn cynorthwyo person lle mae'n cael ei gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, ac eithrio pan fydd wedi cael ei symud i le diogel
- Er bod EIMA yno i helpu unigolion i ddeall cwestiynau a gwybodaeth, nid ydynt yn gyfieithwyr, yn ddehonglwyr nac yn ddarparwyr 'cyfathrebu cyffredinol'
- Gall yr EIMA ddarparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer cyrchu gwybodaeth, arfer eu hawliau wrth wneud cwyn(ion) ac ar gyfer cael mynediad at gofnodion.
- Gellir cyfarwyddo EGMA mewn achosion diogelu a dylid ei gyfarwyddo mewn adolygiadau gofal
Eiriolaeth Cwynion - Llais
Nod Eiriolaeth Llais yw deall eich barn a'ch profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau'n defnyddio'ch adborth i lunio'ch gwasanaethau. Maent yn ceisio deall beth sy'n gweithio'n dda a sut y gall fod angen i wasanaethau wella a chysylltu â'r rhai nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed yn aml.
Pan fydd pethau'n mynd o'i le, maen nhw'n eich cefnogi chi i wneud cwynion.
Cysylltwch â Llais drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy ffurflen gyswllt.