Ymgymryd â gwaith ar goeden a warchodir
Rhaid cael caniatâd cyn ymgymryd ag unrhyw waith ar goeden neu goed a warchodir dan Orchymyn Cadw Coed.
Mae hyn yn galluogi cadw coed sy'n bwysig i dref ac i dirwedd a gwneud gwaith o safon uchel arnynt.
Sut i gyflwyno cais
- ar-lein drwy'r porth cynllunio (Yn agor ffenestr newydd). Mae cofrestru'n hawdd a gallwch gwblhau eich ffurflen gais a lanlwytho dogfennau cefnogi ar-lein.
- neu gallwch lawrlwytho ffurflen o'r porth cynllunio: Ffurflen gais: gwaith ar goed yn amodol ar GCC (porth cynllunio) (Yn agor ffenestr newydd)
Gwaith ar goed yn amodol ar GCC - nodiadau arweiniol (PDF, 157 KB)
Ni chodir ffi am gyflwyno cais gweithio ar goeden. Fodd bynnag, os bydd asiant yn llenwi ffurflen ar eich rhan, gall fod ffi fach i'w thalu am ei amser.
Gall perchennog y goeden, asiant neu gymydog wneud cais i wneud gwaith ar goeden. Os gwneir cais llwyddiannus gan gymydog, yna byddai angen iddo gael caniatâd gan berchennog y goeden i dorri unrhyw ran nad yw'n gorhongian dros ei eiddo.
Eithriadau
Ceir eithriadau o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, sy'n caniatáu i berchennog coeden ymgymryd â gwaith penodol heb ganiatâd. Mae hyn yn berthnasol i dorri coed neu rannau o goed sy'n farw neu sydd yn o broses o farw, neu sy'n beryglus. Enghraifft gyffredin fyddai torri pren marw (sef canghennau marw).
Cynghorir i berchennog coeden ofyn am archwiliad gan Swyddog Coed y cyngor cyn ymgymryd ag unrhyw waith ar goeden a warchodir y mae'n ystyried ei bod yn farw, yn y broses o farw neu'n beryglus, gan roi o leiaf 5 niwrnod o rybudd fel gall y swyddog gadarnhau iechyd y goeden.
Mewn argyfwng neu dros y penwythnos, argymhellir galwad ffôn neu e-bost i'r cyngor, ynghyd â chasglu a chadw tystiolaeth o'r broblem (lluniau/y rhan ddiffygiol o'r goeden, etc). Cyfrifoldeb perchennog y goeden yw darparu tystiolaeth ar gais i Swyddog Coed y cyngor i ddangos yr oedd y goeden wedi marw, yn marw neu'n beryglus er mwyn atal carnau cyfreithiol.
Gall eithriadau eraill gynnwys gwaith gan gwmniau cyfleustodau, coed mewn meysydd awyr, safleoedd amddiffyn neu lle y mae gwaith yn angenrheidiol ar gyfer caniatâd cynllunio llawn (nid amlinellol).
Cosbau
Mae gan y llysoedd y pŵer i roi dirwy i unrhyw un sy'n difrodi coeden a warchodir. Mae'r dirwyon a rhoddir am ddifrodi coeden yn ddiderfyn, a gellir codi dirwy o hyd at £2,500 am waith tocio heb ganiatâd. Os codir arian am waith heb awdurdod, megis cynnydd mewn gwerth eiddo o ganlyniad i ddifrodi coeden i gael gwell olygfa er enghraifft, mae gan y llysoedd y pŵer i roi dirwy sydd cyfwerth ag unrhyw gynnydd yng ngwerth yr eiddo. Nid yw'n dderbyniol i ddiffynnydd ddadlau ei fod yn anymwybodol bod y goeden wedi'i gwarchod oni bai fod y cyngor ar fai am hyn.
Gall fod angen trwydded torri coed er mwyn torri coed mewn coetiroedd, fforestydd ac yng nghefn gwlad yn ehangach hefyd: Trwyddedau torri coed (Cyfoeth Naturiol Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)