Gorchmynion Cadw Coed (GCC)
Mae dros 560 o Orchmynion Cadw Coed (GCC) unigol o fewn ffiniau Dinas a Sir Abertawe ar gyfer coed unigol, grwpiau o goed, 'ardaloedd' a choetiroedd.
Dogfennau sy'n rhoi amddiffyniad cyfreithiol i goed unigol penodol, grwpiau o goed neu goetiroedd o werth amwynder cyhoeddus yw Gorchmynion Cadw Coed. Gall GCC fod yn berthnasol i goeden unigol, grŵp o goed neu goetir. Gellir amddiffyn coeden o unrhyw faint, rhywogaeth neu oedran gan GCC. Fel arfer, mae'r goeden/coed yn weladwy o fan cyhoeddus, gan gyfrannu mewn ffordd gadarnhaol i'r dirwedd. Gyda grwpiau o goed neu goetiroedd, gwerth amwynder y coed ar y cyd sy'n bwysig yn hytrach na rhinweddau unigol pob coeden.
Mae'r gorchymyn yn ei wneud yn drosedd i dorri, dadwreiddio, tocio, difrodi neu ddifetha'r goeden neu'r coed dan sylw. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu na ellir gwneud gwaith arni ond mae'n rhaid cael caniatâd cyn gwneud hynny.
Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr o hyd yw coeden a warchodir gan GCC, nid ydym yn gyfrifol am y goeden ac ni fyddwn yn cyfrannu at gost ei chynnal.
Mae adrannau 197 a 198 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn rhoi hawl i awdurdodau cynllunio lleol (ACLl) gyflwyno gorchmynion cadw coed.Mae'n rhaid i ni, fel ACLl, gyfiawnhau gosod GCC a gall perchennog y goeden wrthwynebu gorchymyn o'r fath.
Protocol coed a warchodir (PDF) [741KB]
Yn ogystal, caiff coed mewn Ardaloedd Cadwraeth eu rheoli ardaloedd cadwraeth.
Ymgymryd â gwaith ar goeden a warchodir
Cyflwyno cais am Orchymyn Cadw Coed newydd
Coed mewn ardaloedd cadwraeth
Coed ar safleoedd datblygu
Hysbysiadau cael gwared â gwrychoedd
Cwestiynau cyffredin am Orchmynion Cadw Coed (GCC)
Y Tîm Gorchmynion Cadw Coed
- Enw
- Y Tîm Gorchmynion Cadw Coed
- E-bost
- CoedaDdiogelir@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 635724
- Rhif ffôn symudol
- 07917 200201