Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun gwarchod plant cymunedol

Bydd gofalwr plant cymunedol yn cynnig gwasanaeth ychwanegol i'r hyn y mae gofalwr plant yn ei gynnig.

Mae'n rhaid i warchodwr plant cymunedol gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd).

Byddwch yn cynnig gwasnaeth ychwanegol i'r hyn a gynigir gan warchodwr plant.  Mae'n ymwneud a bod yn rhan o'r Cynllun Gofal Plant Cymunedol a ariennir gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe ar gyfer plant dan 8 oed.  Mae Gofal Plant Cymunedol yn rhan o'r gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd a gynigir gan AGC sy'n gweithio i gefnogi teuluoedd sy'n dioddef straen difrifol a/neu sy'n debygol o chwalu. Gall Gwarchodwr Plant Cymunedol hefyd ofalu am y plant mwyaf diamddiffyn, gan gynnwys plant ag anabledd, anawsterau ymddygiad a phlant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn cefnogi teuluoedd plant sydd mewn perygl o gael eu lletya oherwydd anabledd, salwch neu os yw'r teulu wedi chwalu.  Gellir disgwyl i warchodwyr plant gynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i rieni i'w hannog i ddatblygu eu sgiliau magu plant.

I gael mwy o wybodaeth am warchod plant cymunedol, ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD).

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Awst 2021