Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau'r cyngor ar gyfer eich busnes twristiaeth

Mae gan Gyngor Abertawe nifer o dimau a all eich helpu chi gyda sawl agwedd ar eich busnes.

Rheoli Adeiladau

Mae'r gwasanaeth Rheoli Adeiladau'n sicrhau bod pob adeilad yn ddiogel, yn iach, yn gynaliadwy ac yn hygyrch i bob defnyddiwr. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys adeiladau defnydd domestig, masnachol a chyhoeddus ac yn sicrhau eu bod yn bodloni rheoliadau adeiladu.

abertawe.gov.uk/rheoliadeiladau?lang=cy
01792 635636
rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk

Ardrethi Busnes

Math o drethiant lleol sy'n daladwy gan ddeiliaid neu berchnogion eiddo masnachol fel siopau, swyddfeydd, tafarndai, warysau a ffatrïoedd yw Ardrethi Busnes. Cânt eu casglu gan Gyngor Abertawe ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r arian a gesglir yn cael ei dalu i 'gronfa' ganolog ac yna'i ailddosbarthu ar draws Cymru i helpu i dalu am wasanaethau a ddarperir gan yr holl awdurdodau lleol. Mae'r buddion masnachol eraill y mae ardrethi busnes yn daladwy amdanynt yn cynnwys mastiau telathrebu, hawliau hysbysebu, peiriannau arian parod a meysydd parcio.

Am ymholiadau ynghylch yr Ardrethi Busnes yn eich mangre, ewch i abertawe.

gov.uk/ardrethibusnes

Gwastraff Masnachol ac Ailgylchu

Gall Cyngor Abertawe ddarparu amrywiaeth o wasanaethau casglu a gwaredu gwastraff ac ailgylchu ar gyfer eich busnes. Gellir eu dylunio i ddiwallu'ch anghenion
gyda chynwysyddion o wahanol fathau a meintiau ac amlder y gwasanaeth casglu. Pam dewis ein gwasanaeth casglu gwastraff masnachol?

  • cyfraddau cystadleuol, contractau pris penodedig heb unrhyw gostau annisgwyl, mae'r holl ffïoedd gweinyddu, gan gynnwys nodiadau trosglwyddo gwastraff wedi'u cynnwys
  • tîm lleol profiadol dynodedig i helpu gydag ymholiadau a darparu ymgynghoriad a dyfynbris heb rwymedigaeth 
  • dim tâl am nodyn trosglwyddo gwastraff dyletswydd gofal
  • Dim TAW
  • gwasanaeth hyblyg

abertawe.gov.uk/gwastraffmasnachol

Gwneud Busnes gyda'r Cyngor

Mae'r cyngor yn caffael amrywiaeth eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Er enghraifft, deunyddiau ysgrifennu, trydan ac adeiladu ysgol newydd, hyd yn oed.
Ar gyfartaledd, mae'r cyngor yn gwario dros £250 miliwn y flwyddyn ar sefydliadau allanol. Cysylltwch â'r tîm prynu i gael manylion cyfleoedd caffael cyfredol ac sydd ar ddod.

abertawe.gov.uk/gwneudbusnesgydarcyngor?lang=cy

Diogelwch Bwyd

Gall y Tîm Diogelwch Bwyd ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i fusnesau sy'n ymwneud â bwyd, gan gynnwys cofrestriadau busnes a sgoriau hylendid bwyd.

abertawe.gov.uk/bwyd
bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk
01792 635600

Iechyd a Diogelwch

Mae'r Tîm Iechyd a Diogelwch yn sicrhau bod busnesau lleol yn cadw at ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Mae hyn yn cynnwys manwerthu, rhai warysau, y rhan fwyaf o swyddfeydd, gwestai a mannau arlwyo, chwaraeon a hamdden, gwasanaethau cwsmeriaid a mannau addoli.

abertawe.gov.uk/iechydadiogelwch

Tir ac Eiddo

Nodi tir ac eiddo masnachol gwag yn Abertawe sydd ar gael i'w prynu neu eu rhentu. Mae'r rhestr ar wefan y cyngor yn cynnwys eiddo sy'n eiddo i'r cyngor ac sydd ar gael drwy asiantiaid masnachol lleol.

abertawe.gov.uk/eiddoargael

Trwyddedu

Am drwyddedau sy'n ymwneud â gweithgarwch busnes, gan gynnwys alcohol ac adloniant; tacsis; masnachu ar y stryd; codi arian ac anifeiliaid. 

abertawe.gov.uk/trwyddedu

Cynllunio

Mae gwasanaethau'n cynnwys arweiniad ar geisiadau cynllunio, gorfodi cynllunio, cynnal coed a ffioedd tir. Os ydych chi'n bwriadu gwneud addasiadau i'ch mangre, cysylltwch â'r Tîm Cynllunio cyn ymgymryd ag unrhyw waith.
w abertawe.gov.uk/cynllunio

cynllunio@abertawe.gov.uk

Cyfleoedd Nawdd a Masnachol

Dewch yn bartner gyda Chyngor Abertawe i godi proffil eich cwmni, gwella ymwybyddiaeth o'ch cwmni a chryfhau eich brand i'ch cwsmeriaid a'r gymuned. 

  • Mae'n gyfle i wahaniaethu rhwng eich cwmni chi a'ch cystadleuwyr
  • Gwella'ch delwedd ac atgyfnerthu enw da a hygrededd eich cwmni
  • Datblygu partneriaeth tymor hir gyda Chyngor Abertawe a gwella'r berthynas rhwng eich cwmni a'r gymuned 
  • Cyfle i'ch cwmni feithrin perthynas â darparwyr eraill o safon.
  • Arddangos eich cwmni i filoedd o gwsmeriaid newydd posib gan gynnwys dros 29,000 o fyfyrwyr.

abertawe.gov.uk/cyfleoeddnoddiamasnach?lang=cy

Y Fasnach Dwristiaeth

Os yw'ch busnes yn rhan o'r sector lletygarwch yna mae Tîm y Fasnach Dwristiaeth ar gael i ddarparu cefnogaeth. Mae'r tîm yn cynnal ymgyrchoedd marchnata drwy gydol y flwyddyn i godi proffil y cyrchfan ac annog ymwelwyr i ymweld â Bae Abertawe drwy ein gwefan swyddogol y cyrchfan, ein cyfryngau cymdeithasol a'n hymweliadau CC proffil uchel.

abertawe.gov.uk/yfasnachdwristiaeth

Safonau Masnach

Safonau Masnach sy'n gyfrifol am orfodi cyfreithiau defnyddwyr i annog masnachu teg, diogel a gonest. Mae ein gwaith yn helpu i amddiffyn busnesau a chwsmeriaid rhag sgamiau a masnachu annheg.

abertawe.gov.uk/safonaumasnach
safonau.masnach@abertawe.gov.uk
01792 635600