Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau rheoleiddio busnes

Os oes gennych fusnes sefydledig, neu os ydych wedi sefydlu busnes newydd yn ddiweddar neu'n ystyried gwneud hynny, gall ein timau Diogelwch Bwyd a Safonau Masnach gynnig y cyngor y mae ei angen arnoch i sicrhau bod eich busnes yn cydymffurfio.

Siaradwch â'n harbenigwyr er mwyn i chi gael pethau'n iawn y tro cyntaf

Bydd siarad â'n harbenigwyr Diogelwch Bwyd a Safonau Masnach yn rhoi'r cymorth a'r arweiniad y mae eu hangen arnoch chi mewn perthynas ag anghenion rheoleiddio'ch busnes.

Ein gwasanaethau

Rydym yn cynnig cefnogaeth a chyngor rheoleiddiol am Ddiogelwch Bwyd a Safonau Masnach i fusnesau cyn iddynt gychwyn, i fusnesau newydd a rhai sefydledig. Gallwn eich helpu gyda'ch ymholiadau rheoleiddio a byddwn yn eich hysbysu o'r camau gweithredu y mae angen eu cymryd i gydymffurfio â'r gyfraith.

Pam dylai fy musnes ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae gennym yr arbenigedd i'ch helpu i datblygu'ch busnes. Mae ein Gwasanaeth Rheoleiddio Busnes yn cynnig cyswllt uniongyrchol ag arbenigwyr busnesau.

Gwneud cais am gyngor rheoleiddio busnes gennym ni

I ofyn am gyngor llenwch ein ffurflen ymholiadau. Yna byddwn yn gallu cynnig dyfynbris gan fanylu ar ba feysydd cyngor y gallwn eu cynnwys ynghyd ag amcangyfrif o ba mor hir y byddai hyn yn ei gymryd.