Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithgareddau heneiddio'n dda

Cyfleoedd i aros yn heini a chwrdd â phobl newydd yn Abertawe.

Sesiwn Gymdeithasol gyda Chawl a Ffilm

Bob dydd Llun, 1.00pm - 4.00pm
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ystafell y Cefnfor

Ymunwch â ni ar gyfer dangosiad ffilm wythnosol a'r cyfle i gwrdd a chymdeithasu ag eraill. Mae diodydd poeth ar gael a gweinir cawl a rhôl fara yn ystod yr egwyl hefyd!

(Mewn partneriaeth â Gweithredu dros Bobl Hŷn ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau).


Ymunwch â ni ar gyfer y Sgrin Arian

"Cyfle i fynd allan o'r tŷ a chwrdd â phobl newydd"

Bob dydd Mawrth, 1.00pm

Odeon Parc Tawe, Quay Parade, Parc Tawe, Abertawe SA1 2BA.

£4 - Mae'r pris yn cynnwys ffilm, diod boeth a bisgedi

www.odeon.co.uk/silvers

Sylwer bod y ffilmiau'n newid yn wythnosol.


Bore Coffi LGBT+ am ddim

Ymunwch â ni am goffi a sgwrs hamddenol!

Cyfle i fynd allan o'r tŷ, cwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd

Coast Café, Trawler Road, Ardal Forol, SA1 1XA.

Bob dydd Mercher 10:30 - 12:30


Dydd Mercher - Bowlio i bobl hŷn

Ymunwch â ni bob dydd Mercher rhwng 1.00pm a 3.00pm yn Tenpin, Parc Tawe, Abertawe

Dwy gêm o fowlio am £5 gan gynnwys diodydd poeth 


Tro Cymdeithasol ym Marina Abertawe

Ymunwch â ni bob bore dydd Iau am 10.30am.

Rydym yn cwrdd ger The Swigg am 10.15am.
Byddwn yn mynd am dro hamddenol o amgylch y Marina ac yna'n dychwelyd i The Swigg am sgwrs a phaned.

(Mewn partneriaeth â Gweithredu dros Bobl Hŷn)


Sesiwn Gymdeithasol gyda Chawl

Bob dydd Iau, 1.00pm - 3.00pm
Ardal caffi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Cysylltu pobl drwy fwyd! Man agored, cynhwysol ac anffurfiol i bob cymuned gysylltu, gwneud ffrindiau newydd a rhannu syniadau. Galwch heibio i roi cynnig ar gawl blasus wrth siarad ag eraill ar yr un pryd!

(Mewn partneriaeth â Grŵp Cymunedol Heneiddio'n Dda Abertawe).


Dawnsio i Iechyd

Bob dydd Gwener, 10.30am - 12.00pm
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ystafell y Cefnfor

Dawnsio ar eich eistedd!  Ffordd ddifyr o gynyddu eich cryfder a'ch cydbwysedd, gan eich galluogi i fwynhau ffordd o fyw egnïol ac iach.


Te a Sgwrs

Bob dydd Gwener, 10.00am - 1.00pm

Ymunwch â ni yn The Swigg bob dydd Gwener am de, sgwrs a hwyl.

The Welsh House - Uned 5, J Shed Arcade, Abertawe SA1 8PL

(Mewn partneriaeth â Gweithredu dros Bobl Hŷn).

 

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, cysylltwch â:

Rhys Ananicz, Cydgysylltydd Partneriaeth a Chyfranogiad Heneiddio'n Dda Ffôn: 07442 839441  
Andrea McMurray, Swyddog Cyfranogaeth Heneiddio'n Dda - 07502 599942
Ebost:  heneiddiondda@abertawe.gov.uk       

Heneiddio'n dda