Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwerthu i bobl dan oed

A hoffech weithio gyda Swyddogion Safonau Masnach a'r Heddlu? A hoffech helpu gyda gweithgareddau prawf prynu?

Rydym o hyd yn chwilio am bobl ifanc i helpu gyda phrofion prynu. Yn ddelfrydol, byddwch rhwng 13 ac 16 oed.

Ymarferion "profion prynu" yw'r ffordd orau i Safonau Masnach sicrhau nad yw masnachwyr yn gwerthu nwyddau'n anghyfreithlon i blant a phobl ifanc dan oedran. Mae gwirfoddolwyr dan oedran, gan gydweithio â swyddogion Safonau Masnach, yn ymweld ag eiddo manwerthwyr ac yn ceisio prynu nwyddau sydd wedi'u cyfyngu gan oedran.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch y tîm Safonau Masnach ar 01792 635600 neu e-bostiwch safonau.masnach@abertawe.gov.uk.

Gwybodaeth i wirfoddolwyr

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda phrofion prynu tybaco, alcohol, tân gwyllt a chynnyrch arall â gyfyngir gan oed. Os oes gennych ddiddordeb mewn ein helpu yn ystod gwyliau ysgol achlysurol, gyda'r nos neu ar y penwythnos, cysylltwch â ni. Cewch eich hyfforddi'n llawn ar yr hyn i'w ddweud a'r hyn i'w wneud ac ni fyddwch yn cael eich nodi mewn unrhyw gyhoeddusrwydd. Bydd swyddog o'r Gwasanaeth Safonau Masnach gyda chi ar bob adeg.

Byddwn yn tynnu lluniau a fideos o unrhyw wirfoddolwyr ar ddiwrnod unrhyw ymgyrch. Byddant yn dysgu sut i weithredu cyfarpar gwyliadwriaeth gudd. Gallant naill ai weithio ar eu pennau eu hunain neu gyda ffrind a bydd swyddogion o'r gwasanaeth safonau masnach gyda nhw ar bob adeg ac eithrio pan fyddant yn y siop. Pan fyddant yn y siop bydd swyddog y tu allan gyda llinell ffôn sy'n agored i'n gwirfoddolwyr. Ni fydd angen i chi fynd i siopau sy'n agos at lle rydych chi'n byw, eich ysgol neu lle rydych chi'n cymdeithasu. Byddwn yn ymweld â'ch rhieni/gwarcheidwaid yn gyntaf i drafod ac esbonio materion yn llawn.

Ni allwn eich talu chi am hyn ond byddwch yn derbyn lluniaeth gan gynnwys pryd o fwyd mewn sefydliad bwyd o'ch dewis. Ar ddiwedd eich amser gyda ni byddwn yn rhoi geirda i chi. Bydd hyn yn dda os ydych chi'n meddwl am yrfa yn y maes 'gorfodi' naill ai ar gyfer yr Heddlu neu asiantaeth arall. Caiff ymgyrchoedd profion prynu eu cynnal o fewn canllawiau llym er mwyn eich cadw'n ddiogel. Bydd angen caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad.

Gwybodaeth i rieni

Byddwn yn ymweld â chi'n gyntaf i drafod ac esbonio'r materion yn llwyr. Bydd angen caniatâd eich rhieni/gwarchodwr arnom. Bydd gofyn i rieni/warcheidwaid unrhyw wirfoddolwyr lofnodi ffurflen caniatâd rhieni. Gallwch ddweud pryd a ble gall y gwirfoddolwr helpu a nodi unrhyw ofynion dietegol arbennig. Gofynnir i chi hefyd ddarparu copi o'i dystysgrif geni.

Os byddwn yn llwyddo i brynu unrhyw beth, bydd gofyn i chi gyflwyno datganiad tyst yn nodi'ch plentyn o ffotograff a dynnir gennym a chyflwyno copi o'r dystysgrif geni. Dylai hyn eich atal rhag cael eich galw i roi tystiolaeth yn y llys ond os bydd y diffynnydd yn gwrthod efallai bydd gofyn i chi fod yn bresennol yn y llys.

Bydd gofyn i'ch plentyn fynd i mewn i siopau, gan wisgo cyfarpar gwyliadwriaeth gudd, a cheisio prynu cynnyrch a gyfyngir gan oed. Os yw'n cael ei herio, bydd gofyn iddo ddweud y gwir am ei oed.

Weithiau bydd gofyn i wirfoddolwyr ddweud celwydd wrth fasnachwyr am eu hoedran. Mae hyn yn anghyffredin iawn, ond mae'n un o'r gofynion gan ein gwirfoddolwyr a dylent fod yn barod i wneud hyn. Caiff y penderfyniad i ganiatáu i wirfoddolwr ddweud celwydd ei ystyried yn ofalus iawn gan uwch-reolwr. Fe'i caniateir o fewn y côd ymarfer a gynhyrchir gan LACORS, ein corff rheoli, a byddwn bob amser yn rhoi gwybod i'r rhiant/gwarcheidwad cyn gofyn i wirfoddolwr ddweud celwydd.

Wrth gynnal ymarferion profion prynu byddwn yn sicrhau bod ystyriaethau lles y plentyn yn hollbwysig.

Bydd gofyn i'r gwirfoddolwr fod yn bresennol yn y llys?

Ein tystiolaeth o'r gwerthiant yw'r fideo o'r camera cudd, y dystiolaeth ffotograffig o sut roeddent yn edrych ar y diwrnod a'ch tystiolaeth ynghylch eu hoedran. Byddwn yn gwrthod yn gryf unrhyw ymgais gan yr amddiffyniad i ddod â'r gwirfoddolwr i'r llys.

Er nad ydym yn gallu talu'ch plentyn, rydym yn darparu pryd o fwyd addas a lluniaeth priodol yn ystod yr ymarferiad.

Darperir llythyr o ddiolch y gellir ei ddefnyddio fel Cofnod Cyrhaeddiad hefyd.

Cofiwch fod angen ystyried y penderfyniad i ganiatáu i'ch plentyn fod yn wirfoddolwr yn ofalus. Diben y sesiynau profion prynu yw casglu tystiolaeth a allai arwain at achos llys troseddol ac efallai bydd gofyn i'ch plentyn fod yn bresennol yn y llys fel tyst. Gofynnir i chi a'ch plentyn ystyried goblygiadau fod yn wirfoddolwr yn ofalus.

Close Dewis iaith