Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth darparwyr - cwestiynau cyffredin

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am y cynnig gofal plant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer plant 3 a 4 oed i rieni sy'n gweithio ac sy'n gymwys am hyd at 48 wythnos y flwyddyn erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Prif nodau polisi'r cynnig yw:

  • Galluogi mwy o rieni yn enwedig mamau i ddychwelyd i'r gwaith
  • Cynyddu incwm gwario'r rhai sy'n gweithio a helpu i leddfu tlodi i'r rhai sydd mewn swyddi a chyflog isel
  • Annog plant i ddatblygu ac i fod yn arod ar gyfer yr ysgol.

Cymhwysedd i gael y cynnig gofal plant

Mae rhiant yn gymwys i gael y cynnig yn yr achosion canlynol:

  • Os oes gan y rhaint blentyn cymwys o fewn yr ystod oedran
  • Os yw'r rhiant yn bodloni'r diffiniad o riant sy'n gweithio
  • Os yw'r rhiant yn byw yn un o'r saith ardal beilot yn Abertawe.

Os ydynt yn gymwys, bydd plant yn cael elfen gofal plant y cynnig o'r tymor ar ol eu trydydd penblwydd, nes eu bod yn cael cynnig lle mewn addysg amser llawn - fel arfer yn y mis Medi ar ol eu pedwerydd pen-blwydd.

Beth fydd yn digwydd os na fydd rhiant yn gymwys?

Cyfrifoldeb y rhiant yw hysbysu Dinas a Sir Abertawe a'r darparwr gofal plant bod ei amgylchiadau wedi newid. Os bydd amgylchiadau rhiant yn newid a bod y rhiant yn pedio a hysbysu Dinas a Sir Abertawe ar unwaith, bydd y cyfnod eithrio o 8 wythnos yn dechrau o'r adeg pryd y pediodd a bod yn gymwys ar gyfer y cynnig.

Enghraifft:

Os yw rhiant yn peidio a bod yn gymwys mwyach ond yn methu rhoi gwybod i Ddinas a Sir Abertawe nes bod 4 wythnos wedi mynd heibio, dim ond 4 wythnos o'r cyfnod eithrio dros dro fydd yn weddill.

Diffiniad o riant sy'n gweithio sy'n gymwys

Mae'r term rhiant sy'n gweithio yn cyfeirio at rieni a gwarcheidwaid, llys-rieni a phartneriad cyd-fyw tymor hir o fewn aelwyd. Bydd angen i'r ddau riant mewn teulu a dau riant, neu'r unig riant mewn teulu ag un rhiant, fod yn gweithio er mwyn bod yn gymwys i gael y cynnig. Bydd y cynnig ar gael i rieni sy'n gyflogedig, yn hunangyflogedig neu ar gontract dim oriau ac sy'n ennill, ar gyfartaledd, gyflog wythnosol sydd o leiaf yn cyfateb i 16 awr yn ol yr un gyfradd a'r lsafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Eithriadau bod yn rhaid i'r ddau riant (mewn teulu dau riant) fodloni'r meini prawf enillion:

  • Mae un rhiant yn gyflogedig (ac yn ennill cyflog wythnosol sydd o leiaf yn cyfateb i 16 awr yn ol yr un gyfradd a'r lsafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol) ac mae gan un rhiant gyfrifoldebau gofalu sylweddol, ar sail budd-daliadau penodol a dderbynnir am ofalu.
  • Mae'r ddau riant yn gyflogedig (ac yn ennill cyflog wythnosol sydd o leiaf yn cyfateb i 16 awr yn ol yr un gyfradd a'r lsafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol) ond mae un rhiant neu'r ddau ohonynt allan o'r gweithle dros dro ar absenoldeb rhiant, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu.
  • Mae'r ddau riant yn gyflogedig (ac yn ennill cyflog wythnosol sydd o leiaf yn cyfateb i 16 awr yn ol yr un gyfradd a'r lsafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol) ond mae un rhiant neu'r ddau ohonynt allan o'r gweithle dros dro ar absenoldeb rhiant, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu.
  • Mae'r ddau riant yn gyflogedig (ac yn ennill cyflog wythnosol sydd o leiaf yn cyfateb i 16 awr yn ol yr un gyfradd a'r lsafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol) ond mae un rhiant neu'r ddau ohonynt allan o'r gweithle dros dro ar dal salwch statudol.
  • Mae un rhiant yn gyflogedig (ac yn ennill cyflog wythnosol sydd o leiaf yn cyfateb i 16 awr yn ol yr un gyfradd a'r lsafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol) ac mae un rhiant yn anabl neu'n analluog ar sail derbyn budd-daliadau penodol.
  • Mae rhiant newydd ddod yn hunangyflogedig, ac o fewn y cyfnod cychwynnol. Bydd angen i rieni gofrestru eu busnes gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a darparu tystiolaeth eu bod yn hunangyflogedig er mwyn bod yn gymwys.

Amgylchiadau teuluol cymhleth

Mewn achosion lle mae rhieni wedi gwahanu ond lle nad ydynt yn rhannu gwarchodaeth gyfartal am y plentyn, bernir mai'r rhiant sydd a phrif warchodaeth fydd yn gymwys i hawlio'r cynnig.

Mewn achosion lle mae gan rieni warchodaeth gyfartal am blentyn, bydd angen i un o'r rhieni weithredu fel rhiant arweiniol ac bydd angen iddo ef neu iddi hi fodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer y cynnig.

Bydd angen i wyr, gwragedd neu bartneriaid cyd-fyw rhieni a phrif warchodaeth, neu rieni a enwebwyd yn rhieni arweiniol mewn achosion o warchodaeth ar y cyd, fodloni'r meini prawf cymhwystra hefyd er mwyn i'r teulu gael y cynnig.

Ni fydd angen i oedolion eraill (megis lletywyr, aelodau o'r teulu estynedig neu frodyr a chwiorydd) sy'n byw yn y ty fodloni'r meini prawf, oni bai mai hwy hefyd yw prif warcheidwad y plentyn.

Enghraifft:

Mewn achos lle mae rhieni plentyn wedi gwahanu a'r fam sydd a'r brif warchodaeth, os oes llys-dad yn byw yn yr un aelwyd byddai angen iddo yntau fodloni'r meini prawf cymhwystra er mwyn i'r plentyn gael y cynnig.

NEU

Petai'r brif warchodaeth gan y fam ond ei bod yn byw gyda'i rhieni, neu fod ganddi blentyn arall dros 18 oed, dim ond amgylchiadau'r fam fyddai'n cael eu hystyried.

Beth yw cynnwys y cynnig 30 awr?

Yn ystod y tymor ysgol (39 wythnos y flwyddyn), bydd yr hawl bresennol i ddarpariaeth addysg ran-amser yn yr ysgol yn Abertawe yn rhan o 30 awr y cynnig. Bydd yr union raniad fesul awr rhwng y lleoliad meithrin rhan-amser mewn ysgol a gofal plant yn dibynnu ar yr oriau a gynigir gan yr ysgol ar hyn o bryd.

Enghraifft:

Bydd plentyn sy'n derbyn 12.5 awr o addysg feithrin ran-amser mewn ysgol yn derbyn 17.5 awr o ofal plant a ariannwyd. Ni chaiff cyfanswm nifer yr oriau fod yn fwy na 30 awr yr wythnos.

Y tu allan i'r tymor ni fydd y lle meithrin rhan-amser ar gael, a bydd 9 wythnos pryd y gall rhieni sy'n gweithio hawlio 30 awr o ofal plant.

Y gyfradd tal

  • Y gyfradd tal - am flwyddyn gyntaf y peilot bydd cyfradd tal genedlaethol sylfaenol o £4.50 yr awr yn cael ei thalu'n uniongyrchol i'r darparwyr gofal plant sy'n darparu gofal plant dan y cynnig.
  • Mae'r gyfradd tal sylfaenol genedlaethol yn talu am ofal plant yn unig ac nid yw'n cynnwys taliadau am fwyd, cludiant a gweithgareddau eraill megis gweithgareddau oddi ar y safle sy'n costio, megis gwibdeithiau dydd.
  • Ni ddylai rhieni sy'n rhan o'r cynnig gofal plant, fel amod o bresenoldeb eu plentyn, orfod derbyn a thalu am fwyd gan y darparwr a gallant ddewis darparu pecyn bwyd eu hunain. Dylai rhieni hefyd allu dewis peidio canitau i'w plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n costio y tu allan i'r lleoliad.
  • Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch ffioedd ychwanegol am fwyd, diodydd a byrbrydau'n pennu'r canlynol o dan y cynnig:
    • Ni chodir tal o fwy na £7.50 y dydd ar riant sydd a phlentyn yn mynychu gofal plant am ddiwrnod llawn (tua 10 awr), a all fod yn derbyn hyd at dri phryd bwyd a dau fyrbryd y dydd.
    • Ni chodir tal o fwy na £4.75 y dydd ar riant sydd a phlentyn yn mynychu gofal plant am hanner diwrnod (tua 5.5 awr), a all fod yn derbyn hyd at ddau bryd bwyd a byrbryd.
    • Yn achos gofal sesiynol, lle na ddarperir pryd bwyd ac mae'r plant yn cael byrbryd, mae'r canllawiau'n awgrymu na ddylid codi mwy na 75c y dydd ar rieni.

Rhieni nad ydynt yn defnyddio'r Lleoliad Meithrin Rhan-amser mewn ysgol

Nid oes rhaid i rieni fod yn defnyddio lleoliad meithrin rhan-amser eu plentyn. Bydd rhiant yn dal i fedru hawlio elfen gofal plant y cynnig yn ystod tymhorau'r ysgol (39 wythnos y flwyddyn) a 30 awr o ofal plant a ariennir gan y Llywodraeth am y 9 wythnos sy'n weddill. Nifer yr oriau o ofal plant fydd ar gael i rieni yn ystod y tymor fydd 20 awr yr wythnos, oherwydd bod Dinas a Sir Abertawe yn ariannu ysgolion i ddarparu 10 awr yr wythnos o Addysg Feithrin Ran-amser yn yr ysgol.

Beth fydd yn digwydd os nad yw darparwr wedi cofrestru ar gyfer y cynnig neu os nad yw'n gallu ymateb i gais y rhieni am ofal plant?

  • Cyfrifoldeb y rhiant yw dewis darparwr gofal plant sy'n diwallu ei anghenion gofal plant orau. Os nad yw'r darparwr hwnnw, am ba reswm bynnag, yn dymuno bod yn rhan o gyflwyno'r cynnig, neu os na all ymateb i anghenion gofal plant y rhiant, mater i'r rhiant fydd penderfynu a yw am barhau a'r cynnig neu ddefnyddio darparwr gofal plant arall sy'n gallu rhoi mynediad i'r cynnig.
  • Os na fydd darparwr eisoes wedi'i gofrestru i gyflwyno'r cynnig, gall y rhiant/rhieni gysylltu a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe i gael cyngor di-duedd am ddim ynghylch darparwyr gofal plant cofrestredig ledled Abertawe.

I weld yr arweiniad llawn ar gyflwyno'r cynnig gofal plant i'r awdurdodau lleol, ewch i: Welsh Government guidance childcare offer for early implementers (Yn agor ffenestr newydd)