Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal

Mae derbyn gofal yn golygu bod yr awdurdod lleol (y Gwasanaethau Cymdeithasol) yn helpu i sicrhau dy fod yn cael y gofal iawn.

Byddant yn dy helpu di, dy rieni a phobl eraill yn dy deulu ac yn gweithio gyda phobl eraill yn dy fywyd.  Mae hefyd yn golygu y byddi di'n byw oddi cartref oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw'n bosib i dy rieni ofalu amdanat yn y ffordd y mae angen iddynt ei wneud.  Weithiau mae hyn yn cael ei alw'n 'bod mewn gofal'.

Gall hyn fod gyda chytundeb dy riant/rieni neu oherwydd ein bod yn meddwl y bydd hyn yn fwy diogel i ti.  Pan fyddwn yn trefnu i blant a phobl ifanc fyw oddi cartref, mae'r gyfraith yn eu galw'n 'blant sy'n derbyn gofal'. Weithiau, mae oedolion yn byrhau hyn ac yn dweud 'PDG' (neu 'LAC' yn Saesneg).

Mae rhai plant yn aros mewn gofal am gyfnod byr iawn; mae eraill yn aros am gyfnod hwy.  Lle bynnag y bo modd, byddwn yn gweithio gyda dy deulu i sicrhau dy fod yn gallu mynd adref, ond mae'n rhaid i ni fod yn siŵr bod hyn yn iawn ac yn ddiogel i ti.

Dy weithiwr cymdeithasol

Bydd gennyt weithiwr cymdeithasol dy hun a fydd yn:

  • dy helpu i ddeall beth sy'n digwydd
  • dy helpu di, yn rhoi help ac yn cael yr help y mae ei angen arnat
  • dy helpu i'th gadw'n ddiogel
  • dy drin â pharch
  • gofyn i ti beth rwyt ti'n ei feddwl am bethau
  • dy helpu i gymryd rhan mewn penderfyniadau amdanat.

Dy gynllun gofal a chefnogaeth

Mae dy Gynllun Gofal a Chefnogaeth amdanat ti. Mae'n ymwneud â'th anghenion a sut bydd pobl yn dy fywyd yn dy helpu di a'th deulu.  Bydd y cynllun yn dweud pethau fel - ble byddi di'n byw a chyda phwy y byddi di'n byw, i ba ysgol y byddi di'n mynd a pha mor aml y byddi di'n gweld dy deulu. Bydd dy weithiwr cymdeithasol yn gofyn i ti beth rwyt ti'n ei feddwl am y pethau hyn ac yn gwneud yn siŵr bod dy ddymuniadau a'th deimladau'n cael eu cynnwys.

Dy gyfarfodydd adolygu

Pan fyddi di'n derbyn gofal, bydd cyfarfodydd pwysig yn cael eu cynnal o'r enw Adolygiadau.  Pwrpas y rhain yw rhoi cyfle i bawb edrych ar ba mor dda mae pethau'n mynd a beth sydd angen ei wneud nesaf.  Hoffwn i ti ddod i'n cyfarfod adolygu fel y gelli di ddweud beth rwyt ti'n ei feddwl wrthym a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnat.   Bydd dy weithiwr cymdeithasol neu berson o'r enw eiriolwr yn gallu dy helpu i baratoi ar gyfer y cyfarfodydd hyn. Os nad wyt ti am ddod, byddwn yn dy helpu i ysgrifennu unrhyw beth rwyt ti am ei ddweud neu ddweud wrth bobl yn y cyfarfod.