Gwybodaeth i gyflenwyr band eang a gweithredwyr rhwydwaith symudol
Mae dod â gwell cysylltedd i Abertawe yn flaenoriaeth i Gyngor Abertawe.
Bydd trigolion Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe yn elwa ar Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd â'r nod o ddarparu:
- band eang gwell i bawb... heb adael neb ar ôl
- rhanbarth clyfar sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg
- tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb
Fel rhan o'r rhaglen, bydd y blaenoriaethau canlynol yn cael sylw:
- Sicrhau bod gan ddinasoedd, trefi a pharciau busnes y rhanbarth fynediad at ryngrwyd all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit.
- Paratoi'r rhanbarth ar gyfer 5G, gwell gwasanaeth 4G a'r rhyngrwyd pethau, sy'n cynnwys cartrefi clyfar, gweithgynhyrchu clyfar, amaethyddiaeth glyfar, realiti rhithwir a thechnoleg y gellir ei gwisgo i gefnogi gofal iechyd, byw â chymorth a sectorau eraill.
Mae darparu gwell cysylltedd yn dibynnu ar gydweithredu cadarnhaol a datblygu partneriaethau cryf â chyflenwr seilwaith a gweithredwyr rhwydwaith symudol.
Os hoffech drafod sut y gallwch gymryd rhan yn y Rhaglen Seilwaith Digidol yn ardal Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â'ch Rheolwr Cydberthnasau Cysylltedd Digidol, sydd yno i ddarparu cymorth i gysylltiadau yn y diwydiant:
- Laura Jenkins: laura.jenkins@abertawe.gov.uk
Os ydych yn chwilio am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wella eich band eang, ewch i: Gwell Band eang
Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau Cymru
Highway Authorities and Utilities Committee (HAUC(UK)) (Yn agor ffenestr newydd)
Llawlyfr Chwalu Rhwystrau
Nod y Llawlyfr Chwalu Rhwystrau yw cynnig arweiniad a meithrin ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth sy'n sail i gefnogi'r gwaith o gyflwyno band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit.
Llawlyfr Chwalu Rhwystrau (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)
Adolygiad Seilwaith Telathrebu'r Dyfodol
Mae'r Llywodraeth wedi gosod targedau clir ar gyfer argaeledd rhwydweithiau ffibr llawn a 5G.
Adolygiad Seilwaith Telathrebu'r Dyfodol (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)
Gwybodaeth i'r Diwydiant
Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau sector Telathrebu ffyniannus. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a gwaith ymchwil yma ar gyfer y diwydiant telathrebu.