Gwybodaeth toeon gwyrdd
To gwyrdd neu do byw yw to sydd wedi'i orchuddio'n llwyr neu'n rhannol â llystyfiant.
Gellir cynllunio toeon gwyrdd i gynnwys lle hamdden neu i greu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt. Nod y to gwyrdd yw efelychu'r gwasanaethau ecosystem (h.y. y manteision y mae pobl yn eu cael o natur) a gofynion ecolegol yr ardal leol. Mae Côd Arfer Gorau Toeon Gwyrdd y Sefydliad Toeon Gwyrdd (GRO) ar gyfer y DU 2021 yn gôd ymarfer a grëwyd gan randdeiliaid y diwydiant ac mae'n cynnwys gwybodaeth fanwl am bob agwedd ar doeon gwyrdd. Gellir lawrlwytho'r côd yma: The GRO Code of Best Practice 2021 | Green Roof Organisation
Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd Abertawe: Mae Ardal Abertawe Ganolog - Adfywio'n Dinas er Lles a Bywyd Gwyllt yn argymell mai dim ond toeon gwyrdd sy'n cydymffurfio â Chôd y GRO sy'n cael eu gosod yn Ardal Abertawe Ganolog.
Mae 2 brif fath o doeon gwyrdd:
1. To gwyrdd dwys - Mae toeon gwyrdd dwys neu erddi to wedi'u cynllunio'n bennaf fel lle hamdden neu amwynder fel gardd neu barc. Gall gwyrddlasu gynnwys lawntiau, blodau lluosflwydd, llwyni a choed ac mae dyfnder yr is-haen yn ddyfnach na'r hyn a geir ar doeon gwyrdd helaeth.
2. To gwyrdd eang - mae toeon gwyrdd eang wedi'u cynllunio'n bennaf i amsugno dŵr a chreu cynefin i fywyd gwyllt. Mae toeon gwyrdd eang yn cynnwys bywlysiau, mwsoglau, gweiriau a blodau gwyllt, ac 80mm yw isafswm dyfnder yr is-haen. Mae toeon gwyrdd eang wedi'u cynllunio fel nad oes angen llawer o waith cynnal arnynt a gallant fod yn hynod fioamrywiol. Mae toeon gwyrdd eang biosolar yn doeon gwyrdd biosolar gyda phaneli ffotofoltäig integredig.
Er bod to gwyrdd mat bywlysiauyn do gwyrdd eang, ychydig iawn yw'r manteision a gynigir gan fatiau bywlysiau o ran cadw dŵr ac maent yn agored i sychu a methu. Nid yw matiau bywlysiau heb is-haen oddi tanynt a rhai systemau ysgafn eraill yn cydymffurfio â Chôd y GRO ac ni chânt eu cynghori Mae cynnwys rhywogaethau bywlysiau brodorol fel rhan o do gwyrdd eang bioamrywiol yn dderbyniol.
Sut mae toeon gwyrdd yn cefnogi amcanion y Strategaeth?
Mae toeon gwyrdd yn darparu nifer o wasanaethau ecosystem ac felly'n fanteisiol i les a bywyd gwyllt Maent yn cyfrannu'n sylweddol at bob un o 5 egwyddor Isadeiledd Gwyrdd (IG) Abertawe, a gallant fod yn ateb allweddol i fynd i'r afael â dŵr wyneb.
Egwyddor Isadeiledd Gwyrdd | Cyfraniad |
Amlbwrpas |
|
Wedi'i addasu i newid yn yr hinsawdd |
|
Iach |
|
Bioamrywiol |
|
Clyfar a chynaliadwy |
|
Dethol rhywogaethau ar gyfer toeon gwyrdd
Amcan craidd y strategaeth yw cynyddu bioamrywiaeth a chreu prif wythïen werdd drwy Ardal Abertawe Ganolog i gysylltu'r coridorau bywyd gwyllt cyfagos er mwyn creu cysylltiadau ar gyfer bywyd gwyllt. Felly, dylai cynlluniau plannu bennu rhywogaethau brodorol neu rywogaethau sydd â gwerth bioamrywiaeth profedig i fywyd gwyllt lleol gan greu 'priffyrdd pryfed' neu 'linellau pryfed', cysgod a bwyd ar gyfer bywyd gwyllt. Dylai rhywogaethau fod yn addas ar gyfer amodau agored a sych, yr amgylchedd lleol ac agosrwydd at y bae a'i ficrohinsawdd arfordirol cysylltiedig. Argymhellir cyngor gan ecolegwyr cymwysedig a phenseiri tirwedd ar ddewis rhywogaethau Mae Côd y GRO yn darparu gwybodaeth am lystyfiant o dan Adran 3.1.7.
Gellir dod o hyd i blanhigion sydd â gwerth bioamrywiaeth profedig ar ddogfen Plants for Pollinators y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn www.rhs.org.uk/science/pdf/conservation-and-biodiversity/wildlife/plants-for-pollinators-garden-plants.pdf. Dylai'r cynefinoedd a grëwyd gael eu dylunio i gefnogi'r ecoleg leol h.y. planhigion, adar ac infertebratau a gynnwys pentyrrau o foncyffion, pentyrrau tywod, gwestai gwenyn etc.
Toeon Gwyrdd ac Offeryn y Ffactor Lle Gwyrdd
Mae offeryn Ffactor Lle Gwyrdd (FfLlG) Abertawe (Atodiad 3 y strategaeth) yn asesu ansawdd a natur ymarferol Isadeiledd Gwyrdd. Mae'r ystod o wasanaethau ecosystem a ddarperir gan doeon gwyrdd yn golygu bod toeon gwyrdd dwys ac eang (ac eithrio mat bywlysiau a systemau pwysau ysgafn) yn cario system sgorio FfLlG uchel.
Dyluniad, manyleb a chynnal a chadw
Mae'r Strategaeth yn disgwyl mai dim ond toeon gwyrdd sy'n cydymffurfio â Chôd y GRO gaiff eu gosod yn Ardal Abertawe Ganolog. Mae Côd y GRO yn rhoi cyngor a gwybodaeth fanwl am ddylunio a manyleb toeon gwyrdd, gan gynnwys ffurfweddiad, dyluniad adeileddol, diddosi, draeniad, tân, dyfrhau ynghyd â rhestr o ddogfennau cyflenwol perthnasol.
Wrth ddylunio to gwyrdd ystyriwch ofynion cynnal a sut bydd y gwaith cynnal hwnnw'n cael ei wneud. Mae Côd y GRO yn rhoi cyngor a gwybodaeth fanwl am ofynion cynnal.
Adnoddau/gwefannau defnyddiol
Ardal Ganolog Abertawe: Adfywio'n Dinas er Lles a Bywyd Gwyllt - Abertawe - Strategaeth IG Abertawe
Creating-Green-Roofs-for-Invertebrates_Best-practice-guidance.pdf (buglife.org.uk)
B-Lines | Buglife - Sefydliad sy'n ymroddedig i warchod pob infertebrat.
www.livingroofs.org.uk - Living Roofs yw prif wefan toeon byw annibynnol y DU sy'n darparu newyddion am ymchwil a'r datblygiadau arloesol diweddaraf mewn technoleg toeon a waliau gwyrdd.
Plants for Pollinators advice and downloadable lists / RHS Gardening - Royal Horticultural Society: Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol: defnyddiwch yr hidlydd 'plants for pollinators' yn y ddolen hon i weld y detholiad o blanhigion.
Astudiaethau achos lleol:
Canolfan yr Amgylchedd Abertawe: Gosodwyd to gwyrdd helaeth yng Nghanolfan yr Amgylchedd ym mis Mawrth 2021 gan The Urban Greening Company, a ariannwyd drwy grant y Bartneriaeth Natur Leol. Plannwyd y to gwyrdd a'i hau gyda 48 o flodau gwyllt brodorol a dyfwyd yn lleol gan staff Celtic Wildflowers a Chanolfan yr Amgylchedd.
Swyddfeydd Coastal y Stryd Fawr - Gosodwyd to gwyrdd helaeth gan The Urban Greening Company ar adeilad Swyddfa Coastal ar y Stryd Fawr ym mis Mawrth 2021, a ariannwyd gan Grant Isadeiledd Gwyrdd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru Mae'r to gwyrdd, a ddyluniwyd i ddod â chynefin arfordirol i'r ddinas, yn enghraifft dda iawn o greu lle yng nghanol y ddinas i bobl a natur.