Casgliadau ailgylchu a sbwriel dros y gwyliau
Bydd newidiadau i gasgliadau sbwriel ac ailgylchu dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd.
Cynhelir casgliadau ailgylchu fel arfer tan ddydd Mercher 24 Rhagfyr. Bydd pob casgliad o ddydd Iau 25 Rhagfyr yn hwyrach nag arfer fel a ddangosir isod.
| Diwrnod casglu arferol | Diwrnod casglu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 22 Rhagfyr | Diwrnod casglu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 29 Rhagfyr |
|---|---|---|
| Dydd Llun | Dydd Llun 22 Rhagfyr | Dydd Mawrth 30 Rhagfyr |
| Dydd Mawrth | Dydd Mawrth 23 Rhagfyr | Dydd Mercher 31 Rhagfyr |
| Dydd Mercher | Dydd Mercher 24 Rhagfyr | Dydd Gwener 2 Ionawr |
| Dydd Iau | Dydd Sul 28 Rhagfyr | Dydd Sadwrn 3 Ionawr |
| Dydd Gwener | Dydd Llun 29 Rhagfyr | Dydd Sul 4 Ionawr |
Bydd casgliadau yn dychwelyd i'r arfer o ddydd Llun 5 Ionawr 2025.
Er mwyn cael gwybod beth yw'ch diwrnod casglu arferol, defnyddiwch ein teclyn teclyn chwilio am gasgliadau ailgylchu a sbwriel.
Mae ein cyfrifon Facebook ac X yn cyhoeddi unrhyw newidiadau i'n casgliadau gwastraff ac ailgylchu a gallant roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau oherwydd gwyliau neu dywydd garw.
