Gylïau
Pwy i gysylltu â hwy os bydd draeniau ffyrdd wedi'u rhwystro ac yn dechrau gorlifo.
Mae gylïau a draeniau ffyrdd eraill yn galluogi dŵr wyneb i ddraenio oddi ar y ffordd neu'r llwybr troed. Gall y gylïau gael eu rhwystro gan ddail sydd wedi cwympo, sbwriel a gwreiddiau coed. Pan fyddant wedi'u rhwystro, bydd unrhyw ddŵr wyneb ar y ffordd neu'r palmant yn methu clirio'n gywir. Gall hyn arwain at byllau mawr a hyd yn oed y ffordd yn gorlifo.
Rydym yn cynnal a chadw ein gylïau ond gellir cael problemau o hyd. Unwaith i ni gael gwybod am broblem, byddwn yn ei hychwanegu at ein rhestr archwilio. Bydd amserau ymateb yn amrywio gan ddibynnu ar leoliad a maint y broblem.
Os oes yn well gennych ddweud wrthym am broblem dros y ffôn, ffoniwch ni ar 01792 843330.