A allech chi gael gyrfa mewn gofal?
Os ydych yn hoffi gweithio gyda phobl ac mae gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau pob dydd, gallai gyrfa ym maes gofal fod yn berffaith i chi.
Boed hynny drwy helpu pobl i barhau i fod yn gorfforol actif neu eu helpu gyda'u gofal personol, rôl gweithiwr gofal yw helpu i wella ansawdd bywyd pobl y mae angen gwasanaethau gofal cymdeithasol arnynt.
Pa sgiliau neu gymwysterau fyddai eu hangen arnaf?
Mae swyddi ar gael ar amrywiaeth o lefelau gwahanol. Mae'n bosib bod yn weithiwr gofal heb lawer o gymwysterau.
Yr hyn sy'n wirioneddol hanfodol yw'r gallu i wneud y canlynol:
- Dangos empathi tuag at bobl o amrywiaeth o gefndiroedd a diwylliannau
- Cyfathrebu'n effeithiol
- Bod yn gryf ac yn ddibynadwy fel aelod o dîm
Mae rhai darparwyr gofal hefyd yn annog eu gweithwyr i astudio am gymwysterau proffesiynol, gan eu galluogi i anelu at swyddi lefel uwch yn y sector.
Dewch o hyd i swyddi gwag - darparwyr Gofal yn Abertawe:
- Deluxe Homecare
- Allied Healthcare
- Aylecare
- Carewatch
- Crosshands Home Services
- GRS Care Ltd - Ebostiwch jobs@grscare.co.uk neu galwch 01792 776238
- Home Instead
- i-Care
- MiHomecare
- Pegasus
- RSD
Mae cyfleoedd ar draws ardal Bae'r Gorllewin, felly dewch o hyd i fwy o wybodaeth yn www.westernbay.org.uk/gofal