Toglo gwelededd dewislen symudol

A allech chi gael gyrfa mewn gofal?

Os ydych yn hoffi gweithio gyda phobl ac mae gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau pob dydd, gallai gyrfa ym maes gofal fod yn berffaith i chi.

Caring staff and patient

Caring staff and patient
Os oes gennych ymagwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i ofalu am eraill, ar gyfer y rhan fwyaf o rolau gallwch gael unrhyw hyfforddiant ac ennill unrhyw gymwysterau y mae eu hangen arnoch yn y swydd. Mae llawer o ffyrdd o weithio'n hyblyg, felly gallwch drefnu gofalu am bobl o gwmpas eich anghenion chi a'ch teulu.

Ar gyfer y bobl iawn, dyma un o'r gyrfaoedd mwyaf gwerth chweil yn y byd.

Gall Gofalwn Cymru roi rhagor o wybodaeth am yrfa mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant ac esbonio pam mae angen i ni ddenu rhagor o bobl â'r sgiliau a'r gwerthoedd cywir i weithio mewn swyddi gofal gyda phlant ac oedolion.

Os ydych chi'n meddwl am fod yn ofalwr, ewch i Gofalwn Cymru (Yn agor ffenestr newydd) i ddod o hyd i ddarparwyr lleol sy'n chwilio am bobl fel chi.