Toglo gwelededd dewislen symudol

Troeon yn caniatáu i bobl gamu yn ôl i'r gorffennol!

Rhoddir bywyd newydd i hanes cyfoethog hen berfeddwlad ddiwydiannol Abertawe - gyda chyfres o droeon tywys am ddim.

lower swansea valley from the air

Mae ardal a fu unwaith yn ganolbwynt diwydiant copr y byd bellach yn dechrau ar ddyfodol newydd disglair.

Bydd y troeon yn dangos sut mae ymdrechion yn cael eu gwneud i gadw straeon pwysig o'r gorffennol yn fyw.

Maent yn cael eu trefnu gan grwpiau gwirfoddol lleol sy'n gweithio gyda Chyngor Abertawe i ddathlu treftadaeth leol Cwm Tawe Isaf, gan gynnwys Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, ardal y Garreg Wen a Pharc Treforys.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae ein cynlluniau adfywio ar gyfer Cwm Tawe Isaf, y gwnaed cynnydd arnynt eisoes yn atyniad newydd distyllfa wisgi Penderyn, yn golygu dyfodol disglair iawn i'r ardal.

"A gwyddom pa mor bwysig yw treftadaeth yr ardal i'r dyfodol hwnnw. Rydym yn hapus i weithio gydag eraill i ddathlu gorffennol diwydiannol gwych yr ardal."

Ddydd Sadwrn, 20 Awst, cynhelir tro tywys ym Mharc Treforys rhwng 10am a 12pm.Bydd hwn yn gyfle i ddysgu am hanes y parc a agorwyd i'r cyhoedd am y tro cyntaf ym 1912. Bydd y rheini sy'n cymryd rhan yn cwrdd ger y gofeb ym mynedfa Park Lodge Road.

Y diwrnod canlynol, ddydd Sul, 21 Awst, cynhelir tro tywys yng ngwaith copr yr Hafod-Morfa rhwng 11am ac 1pm. Bydd man cwrdd gyferbyn ag adeilad Parcio a Theithio Glandŵr.

Ddydd Mawrth, 23 Awst, cynhelir tro tywys yn y Garreg Wen rhwng 11am ac 1pm. Bydd y man cwrdd ym maes parcio'r Garreg Wen. I gadw'ch lle ar y tro hwn, e-bostiwch info@friendsofwhiterock.org.uk.

Rhagor o wybodaeth:

·       www.abertawe.gov.uk/AdfywioTreforys

·       Siopwch yn Lleol, Siopwch yn Nhreforys - Abertawe

·       https://www.facebook.com/MorristonParkFriends/

·       https://www.facebook.com/CopperworksHM

www.friendsofwhiterock.org.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2022