Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhwydwaith gwresogi newydd i leihau ôl troed carbon y ddinas

Mae rhwydwaith gwresogi mawr newydd yn yr arfaeth ar gyfer Abertawe i helpu i arbed arian i fusnesau ar eu biliau ynni a lleihau ôl troed carbon y ddinas.

Arena from above

Byddai'r rhwydwaith gwresogi carbon isel yn defnyddio gwres sydd dros ben o ganolfan ddata enfawr y disgwylir iddi fod yn rhan o'r prosiect ynni adnewyddadwy gwerth £4 biliwn yn ardal porthladd Abertawe.  

Disgwylir i'r prosiect cyffredinol a arweinir gan DST Innovations o Ben-y-bont ar Ogwr hefyd gynnwys morlyn llanw, canolfan cynhyrchu batris uwch-dechnoleg, eco-gartrefi wedi'u hangori yn y dŵr a chanolfan ymchwil gefnforol a newid yn yr hinsawdd.  

Byddai'r rhwydwaith gwresogi arfaethedig yn cynhesu nifer o adeiladau yn ardaloedd canol y ddinas ac SA1 Abertawe drwy bibellau cysylltiedig. Byddai'n cwmpasu'r ardal rhwng campws Prifysgol Abertawe ar Fabian Way a'r Ganolfan Ddinesig ar Oystermouth Road, gan gynnwys datblygiadau yn ardal y dociau ac SA1, yn ogystal ag adeiladau eraill fel Amgueddfa Abertawe a CEF Abertawe.

Gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe nawr gymeradwyo astudiaeth a fyddai'n ymchwilio ymhellach i ddichonoldeb y rhwydwaith gwresogi ardal, diolch i gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer y gwaith.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae pob un ohonom yn ymwybodol o effaith newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd cymryd camau i leihau ei effeithiau arnom ni a chenedlaethau'r dyfodol. 

"Dyna pam rydym wedi pennu targed o ddod yn ddinas sero net erbyn 2050 a byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn ochr yn ochr â busnesau a phreswylwyr Abertawe i gyrraedd y nod hwnnw. 

"Drwy weithio'n agos gyda DST Innovations a'u partneriaid, rydym wedi nodi cyfle ar gyfer rhwydwaith gwresogi carbon isel ar gyfer yr ardal yn gysylltiedig â datblygiad cyffredinol a fyddai'n gwresogi llawer o adeiladau mawr Abertawe yn SA1 ac yng nghanol y ddinas. 

"Ynghyd ag agweddau eraill ar y prosiect arloesol hwn, bydd yn lleihau ôl troed Abertawe yn sylweddol, wrth greu miloedd o swyddi a sicrhau bod ein dinas yn rhan annatod o arloesedd economi werdd fyd-eang."

Daethpwyd i gytundeb eisoes ar y cytundebau tir y byddai angen eu rhoi ar waith rhwng Cyngor Abertawe, DST a Batri Ltd ar gyfer elfennau eraill o'r cynllun cyffredinol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ehangu safle maes parcio Fabian Way i greu hwb trafnidiaeth ynni gwyrdd a fydd o bosib yn cynnwys gorsaf gweithgynhyrchu hydrogen ar gyfer trafnidiaeth sy'n cael ei bweru gan hydrogen, digonedd o fannau gwefru cerbydau trydan, a bwytai a mannau gweithio hyblyg i ymwelwyr eu mwynhau.
  • Ehangu ar gynlluniau fferm solar sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ar hen safle tirlenwi Tir John i greu un o gyfleusterau cynhyrchu ynni solar mwyaf y DU. 
  • Cyfleuster gweithgynhyrchu newydd ar hen safle Morrissey yn SA1 i greu batris uwch-dechnoleg a fyddai'n storio'r ynni adnewyddadwy sy'n cael ei greu gan y prosiect ac ar gyfer dosbarthiad byd-eang.
Close Dewis iaith