Toglo gwelededd dewislen symudol

Help gyda'ch bil Treth y Cyngor mewn amgylchiadau eithriadol

Mewn amgylchiadau arbennig, a lle na ellir cymhwyso gostyngiadau ac eithriadau cenedlaethol, efallai y gallwn leihau atebolrwydd am Dreth y Cyngor mewn perthynas ag achosion unigol neu ddosbarth(iadau) eiddo.

Wrth wneud cais am y gostyngiad bydd angen i'r cais gael ei gyflwyno'n ysgrifenedig gan y sawl sy'n talu Treth y Cyngor, ei eiriolwr/benodai neu drydydd parti awdurdodedig priodol sy'n gweithredu ar ei ran.

Cymhwysedd

Er mwyn cyfiawnhau unrhyw ostyngiad dewisol sy'n cael ei ddyfarnu, rhaid bod tystiolaeth o galedi ariannol neu amgylchiadau personol eithriadol, cwbl annisgwyl sy'n effeithio ar allu'r trethdalwyr i dalu Treth y Cyngor.

Ni fwriedir iddo ddisodli unrhyw ostyngiadau, eithriadau y gellid eu dyfarnu, na Gostyngiad Treth y Cyngor. Ni ddylid ei ystyried fel ateb parhaol i anawsterau ariannol neu anawsterau eraill.

Byddwn yn trin pob cais yn ôl ei deilyngdod unigol. Fodd bynnag, dylai'r meini prawf canlynol gael eu bodloni ar gyfer pob achos:

  1. Mae'r trethdalwr wedi gwneud cais am Ostyngiad Treth y Cyngor - y cynllun sy'n sicrhau bod y rheini ar incymau isel yn cael cymorth ariannol tuag at Dreth y Cyngor sy'n ddyledus ar gyfer y cartref y maent yn byw ynddo.
  2. Mae'r trethdalwr wedi dangos bod cais am ostyngiad dewisol yn gais sy'n ddewis olaf a'i fod wedi mynd ar drywydd pob dull posib arall o leihau, dileu neu dalu'r tâl.
  3. Mae'r trethdalwr wedi darparu digon o fanylion am y caledi ariannol neu'r amgylchiadau personol eithriadol, cwbl annisgwyl sy'n effeithio ar ei allu i dalu'r Treth y Cyngor y mae'r cais wedi'i seilio arno ac wedi darparu gwybodaeth a thystiolaeth ategol briodol.
  4. Mae'r trethdalwr wedi bodloni'r Cyngor fod pob cam rhesymol wedi'i gymryd ganddo i ddatrys ei sefyllfa'i hun cyn iddo wneud cais.
  5. Mae'r trethdalwr wedi dangos nad yw'r Treth y Cyngor sy'n ddyledus na'r atebolrwydd net sy'n ddyledus yn ganlyniad i ddiffyg talu bwriadol, neu fethu gwneud taliadau yn ôl yr angen drwy wrthodiad bwriadol neu esgeulustod beius.

Er mwyn deall amgylchiadau ariannol y trethdalwr yn llawn, efallai y gofynnir i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i gefnogi ei gais. Gall hyn gynnwys:

  • datganiad o incwm a gwariant
  • tystiolaeth ddogfennol i gadarnhau gwybodaeth a ddarparwyd am y datganiadau incwm a gwariant
  • tystiolaeth bod yr holl gymwyseddau posib ar gyfer ffyrdd o gynyddu adnoddau ariannol wedi cael eu harchwilio'n drylwyr, ac y manteisiwyd i'r eithaf arnynt
  • esboniadau ynghylch pam nad yw asedau y gellid eu gwireddu a'u defnyddio i dalu tâl Treth y Cyngor wedi eu gwireddu
  • unrhyw ddogfennaeth berthnasol arall

Gallai'r ymgeisydd, ar ei fenter ei hun, hefyd ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol a allai gefnogi ei gais yn ei farn ef.

Lle nad yw'r ymgeisydd wedi gofyn am gyngor ariannol gan sefydliad priodol, bydd disgwyliad i geisio cyngor o'r fath. 

Ni roddir gostyngiad dewisol fel arfer yn yr amgylchiadau canlynol:

  1. Lle mae atebolrwydd Treth y Cyngor yn cael ei dalu'n llawn gan Ostyngiad Treth y Cyngor neu eithriad.
  2. Lle'r ydym o'r farn bod treuliau a dyledion diangen ac nad yw'r ymgeisydd wedi cymryd camau rhesymol i leihau'r rhain.
  3. Lle mae gan dalwr Treth y Cyngor asedau y gellid yn rhesymol eu gwireddu a'u defnyddio i dalu'r Treth y Cyngor.
  4. Pan fo cynnydd yn y Dreth y Cyngor sy'n daladwy'n deillio o fethiant gan yr ymgeisydd i roi gwybod am newidiadau yn ei amgylchiadau mewn modd amserol neu pan fo'r ymgeisydd wedi peidio â gweithredu'n gywir neu'n onest.
  5. I dalu costau llys neu gosb Treth y Cyngor a osodwyd.

Sut i wneud cais am ostyngiad dewisol

Dylid cyflwyno ceisiadau'n ysgrifenedig i Is-adran Treth y Cyngor a dylid nodi'n glir: 

  1. Ei fod yn gais am ostyngiad dewisol.
  2. Y rhesymau pam y ceisir gostyngiad dewisol.

Dylai'r cais gynnwys gwybodaeth / tystiolaeth ategol briodol fel y crybwyllwyd uchod.

E-bost: trethycyngor@abertawe.gov.uk
Cyfeiriad: Is-adran Treth y Cyngor, Canolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN

Sut bydd y penderfyniad yn cael ei wneud

Bydd swyddogion Is-adran Treth y Cyngor yn ystyried yr holl geisiadau am ostyngiad dewisol ar sail eu rhinweddau unigol, a rhoddir ystyriaeth i:

  • amgylchiadau personol y trethdalwr ac a ydynt yn eithriadol
  • tystiolaeth y trethdalwr o galedi ariannol
  • incwm y trethdalwr a mynediad at asedau neu gynilion y gellid eu gwireddu i dalu Treth y Cyngor
  • a ellid dyfarnu unrhyw ostyngiadau, rhyddhadau neu eithriadau cymwys eraill
  • cyfrif Treth y Cyngor ac os oes ôl-ddyledion, rhaid i swyddogion fod yn fodlon nad yw'r diffyg taliad oherwydd gwrthodiad bwriadol neu esgeulustod beius
  • pa gamau y mae'r trethdalwr wedi'u cymryd neu y gall fod wedi'u cymryd i gael gwared ar achos y caledi
  • manylion unrhyw amgylchiadau neu wybodaeth berthnasol arall a ddarperir / a gafwyd

Anogir ymgeiswyr i ddarparu gwybodaeth/tystiolaeth lawn a chyflawn wrth ofyn am y gostyngiad.

Bydd swm a chyfnod unrhyw ddyfarniad yn seiliedig ar holl amgylchiadau'r trethdalwr a chaiff ei wneud yn ôl ein disgresiwn. Bydd y cyfnod dyfarnu'n uchafswm o 12 mis fel arfer. Os bydd amgylchiadau'r trethdalwr yn aros yr un fath ar ddiwedd unrhyw ddyfarniad, yna gall gyflwyno cais pellach am ostyngiad dewisol. Wrth ystyried unrhyw gais pellach, bydd yr awdurdod unwaith eto'n gofyn am wybodaeth ynghylch pa gamau y mae'r ymgeisydd wedi'u cymryd, y gall fod wedi'u cymryd, neu nad yw wedi'u cymryd dros gyfnod blaenorol y dyfarniad i gael gwared ar achos y caledi. 

Dylid nodi na ddylid ystyried gostyngiad dewisol fel ateb parhaol i dalu cost Treth y Cyngor sy'n cael ei godi'n gywir.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad

Byddwn yn rhoi gwybod i bob ymgeisydd yn ysgrifenedig am y penderfyniad terfynol. 

Yr hawl i apelio

Mae'r seiliau dros apelio'n codi o dan adran 16 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Rhaid gwneud apêl yn erbyn penderfyniad gan y cyngor i wrthod neu gyfyngu ar ddyfarnu gostyngiad dewisol yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi'n glir seiliau'r apêl a darparu'r holl ddogfennau ategol perthnasol yr hoffai'r ymgeisydd i'r Cyngor eu hystyried. Anogir ymgeiswyr i ddarparu gwybodaeth / tystiolaeth lawn a chyflawn wrth wneud apêl.

Bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu gan swyddog nad yw'n un o'r penderfynyddion gwreiddiol. Os yw'r trethdalwr yn dal yn anfodlon, gall apelio at Dribiwnlys Prisio Cymru. Os nad yw'r trethdalwr yn derbyn ymateb gan yr awdurdod bilio mewn perthynas â'i apêl o fewn 2 fis, gall apelio'n uniongyrchol at Dribiwnlys Prisio Cymru.

Sut mae'r gostyngiad yn cael ei ariannu?

Mae goblygiadau ariannol i drethdalwyr eraill wrth ddyfarnu unrhyw ostyngiadau dewisol heblaw'r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd o dan y ddeddfwriaeth statudol. Mae'n rhaid i'r Cyngor dalu baich ariannol gostyngiadau o'r fath yn llawn, felly mae'n cael ei ariannu drwy gynnydd yn lefel gyffredinol Treth y Cyngor ar gyfer trethdalwyr eraill yr ardal.

Rhaid inni felly gydbwyso angen y trethdalwr unigol y mae angen cymorth ariannol arno yn erbyn buddiannau trethdalwyr eraill y Cyngor yn Abertawe a fyddai'n talu er mwyn i'r gostyngiad dewisol gael ei roi i'r ymgeisydd, os caiff ei ganiatáu.

Diogelu arian cyhoeddus

Rydym wedi ymrwymo i'r frwydr yn erbyn twyll yn ei holl ffurfiau. Mae'n bosib bod unrhyw ymgeisydd sy'n ceisio hawlio gostyngiad dewisol drwy dwyll wedi cyflawni trosedd o dan Ddeddf Twyll 2006. 

Os ydym yn amau y gall twyll fod wedi digwydd, ymchwilir i'r mater, a gallai hyn arwain at achos troseddol.

Close Dewis iaith