Problemau talu eich bil Treth y Cyngor
Os ydych chi'n cael trafferth talu eich bil, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib fel y gallwn eich helpu.
Fel popeth arall, mae'n rhaid talu bil treth y cyngor, ond rydym yn deall y gall pobl fynd i anawsterau gyda'r taliadau heb fod bai arnynt hwy o gwbl. Os ydych yn cael problemau, cysylltwch â ni'n syth. Peidiwch â'i anwybyddu gan na fydd yn diflannu. Rydym yn fodlon trafod y sefyllfa a chytuno â chi ar gynllun talu realistig.
Gallwn hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â'n tîm help a chyngor ar fudd-daliadau lles a all eich helpu gyda rheoli arian a dweud wrthych am fudd-daliadau eraill y gallech eu hawlio neu a oes hawl gennych i ostyngiadau oddi ar dreth y cyngor.
Os ydych wedi cael llythyr atgoffa, mae hyn oherwydd nad ydych wedi talu Treth y Cyngor yn unol â'r rhandaliadau ar eich bil diweddaraf.
Os ydych wedi cael hysbysiad terfynol, peidiwch â'i anwybyddu.
Os ydych wedi cael gwŷs llys, talwch y swm llawn sy'n ddyledus (gan gynnwys costau'r wŷs sef £40.00) cyn y dyddiad llys ac ni fydd yn rhaid i chi dalu costau ychwanegol. Ni chaiff rhagor o gamau adennill eu cymryd yn eich erbyn.
Mae gorchymyn atebolrwydd yn awdurdodiad cyfreithiol a roddir gan lys yr ynadon, sy'n ein galluogi ni (yr awdurdod lleol) i gymryd camau gorfodi i adennill Treth y Cyngor sy'n weddill.
Ar ôl i'ch dyled treth y cyngor gael ei throsglwyddo i'r beili/asiant gorfodi, mae angen i chi weithredu'n gyflym i gysylltu ag ef. Mae angen i chi siarad â'r beili/asiant gorfodi, nid y cyngor.
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2025