Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewch i ddathlu diwrnod hanesyddol y coroni gyda'n gilydd

Mae Abertawe'n paratoi ar gyfer dathliadau'r coroni'r penwythnos hwn gyda phartïon stryd a digwyddiadau lliwgar eraill i goffáu diwrnod hanesyddol.

coronation logo english official

Mae mwy nag 20 o strydoedd yn Abertawe wedi cael caniatâd i gau ar gyfer partïon stryd traddodiadol.  Bydd digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn Oriel Gelf Glynn Vivian a bydd y Llyfrgell Ganolog a llyfrgelloedd yng Ngorseinon, Llansamlet a Threforys hefyd ar agor ar ddiwrnod y coroni ar gyfer digwyddiadau crefft ar thema frenhinol.

Nos Sul bydd Cyngor Abertawe yn goleuo Neuadd y Ddinas yn borffor fel rhan o ddigwyddiad Goleuo'r Genedl ledled y DU sy'n cael ei lwyfannu yn Windsor fel rhan o'r dathliadau.

Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg y cyngor hefyd wedi creu arddangosfa ar-lein sy'n adrodd hanes sut mae cyhoeddiadau a choroniadau wedi cael eu dathlu'n lleol dros y blynyddoedd. 

Mae'r arddangosfa yn www.abertawe.gov.uk/archifaucoroniadau yn cynnwys gwybodaeth am sut caiff brenhines neu frenin newydd ei gyhoeddi.

Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian, y Llyfrgell Ganolog a llyfrgelloedd yng Ngorseinon, Llansamlet a Threforys hefyd ar agor ar ddiwrnod y coroni (6 Mai) ar gyfer digwyddiadau crefft ar thema frenhinol.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Mai 2023